Mae Warren Gatland, prif hyfforddwr tîm rygbi’r Llewod, wedi rhybuddio y bydd De Affrica’n taro’n ôl yn yr ail brawf ar ôl colli’r cyntaf o 22-17.
Mae’r canlyniad yn golygu bod gan y Llewod fantais o 1-0 yn y gyfres o dair gêm, sydd i gyd yn cael eu cynnal yn Cape Town o ganlyniad i sefyllfa Covid-19 y wlad.
Roedd y Llewod ar ei hôl hi o 12-3 ar yr egwyl, ond fe wnaethon nhw daro’n ôl yn yr ail hanner gyda chiciau llwyddiannus gan Dan Biggar ac Owen Farrell.
Ac mae Gatland yn dweud bod lle i wella eto yn yr ail brawf.
“Byddan nhw’n brifo ar ôl hyn oherwydd maen nhw’n wlad falch iawn ac yn bencampwyr byd,” meddai am Dde Affrica.
“Bydd yr wythnos nesaf hyd yn oed yn fwy ac yn fwy anodd, byddwn i’n disgwyl.
“O’n safbwynt ni, rydych chi’n ennill yr un cyntaf ac rydych chi’n gwybod, doed a ddêl, eich bod chi’n mynd i benwythnos ola’r gyfres.
“Mae hynny’n cadw pawb i ganolbwyntio ac â diddordeb ynddi.”
‘Pwyll piau hi’
Dywed Warren Gatland ei fod e wedi dweud wrth y Llewod ar yr egwyl eu bod nhw’n dal yn y gêm, ac i fod yn amyneddgar.
“Yn yr ail hanner, fe wnaethon ni gryfhau a chryfhau a chael ein hunain yn ôl yn y gêm, ond roedd hi’n gêm brawf anodd ac agos a allai fod wedi mynd y naill ffordd neu’r llall,” meddai.
“Daethon ni o’r tu ôl a gorffen yn gryf iawn.
“Ro’n i’n meddwl ein bod ni’n wych yn yr eiliadau olaf.”
Ac mae e wedi canmol dau Sais am eu perfformiadau – y clo Maro Itoje a’r blaenasgellwr Courtney Lawes.
“Roedd y ddau ohonyn nhw’n rhagorol,” meddai.
“Fe wnaeth Courtney Lawes gario’n eithriadol o dda, roedd e’n gryf.
“Ro’n i’n meddwl bod Maro yn anhygoel hefyd.
“Cafodd y ddau ohonyn nhw gêm eithriadol o dda ac roedd hynny’n allweddol i ni, mewn gwirionedd.”