Mae tîm rygbi merched Abertawe wedi cael ei ddirwyn i ben “am resymau y tu ôl i’n rheolaeth”, meddai’r clwb ar y cyfryngau cymdeithasol.

Cafodd y tîm flynyddoedd llwyddiannus cyn y pandemig Covid-19, gan ennill y gynghrair a’r Super Cup yn 2016-17 a 2017-18.

Ond maen nhw’n dweud eu bod nhw wedi colli nifer fawr o chwaraewyr, gyda deg yn gorfod gadael a nifer o rai eraill wedi penderfynu symud i glybiau eraill.

Doedd ganddyn nhw “ddim dewis” ond dirwyn y tîm i ben, yn ôl neges ar Twitter, wrth iddyn nhw ddiolch i Alun Donovan a Stephen Hughes “am yr holl gefnogaeth”.

Datganiad

“Gyda chalon drom, rydym yn drist o gyhoeddi nad yw Clwb Rygbi Merched Abertawe’n bod rhagor,” meddai neges gan y clwb ar Twitter.

“Does dim rhaid dweud bod hwn yn benderfyniad anodd, fodd bynnag, yn dilyn y sefyllfa y cafodd ein chwaraewyr rhyngwladol ei rhoi ynddi wrth orfod chwarae y tu hwnt i’r ffin neu beryglu eu lle yng Nghwpan y Byd, ac wedyn, gyda nifer o chwaraewyr yn symud i ffwrdd, yn ymddeol neu’n methu ymrwymo, doedd gennym ni ddim dewis.

“Fe fu’n bleser chwarae i Abertawe dros y tair blynedd diwethaf a hoffem ddiolch iddyn nhw am eu cefnogaeth, yn enwedig Alun Donovan a Stephen Hughes.

“Hoffem ddymuno’n dda i’n holl ferched yn eu menter nesaf a gobeithio y gallwn ni ddod ynghyd am beint cyn bo hir.”