Mae adroddiadau’n awgrymu bod John Eustace, is-reolwr tîm pêl-droed QPR, wedi gwrthod swydd rheolwr Abertawe.
Mae’r Elyrch yn chwilio am reolwr newydd yn dilyn ymadawiad Steve Cooper, a’r gred oedd mai’r Sais Eustace fyddai’n ei olynu.
Ond yn ôl John Percy, roedd Eustace “yn gyndyn” wrth wrthod y swydd ar ôl cynnal trafodaethau ddiwedd yr wythnos.
Cafodd ei enw ei grybwyll ddwy flynedd yn ôl hefyd, pan wnaeth y Cymro Cooper olynu Graham Potter sydd, fel Eustace, yn enedigol o ganolbarth Lloegr.
Bydd y newyddion diweddaraf hwn yn ergyd i’r Elyrch bythefnos cyn gêm gynta’r tymor newydd.
Ymhlith yr enwau eraill sydd wedi’u cysylltu â’r swydd mae Frank Lampard a John Terry, ond dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd i ba gyfeiriad fydd perchnogion yr Elyrch yn troi nesaf.
Pwy bynnag fydd yn cael ei benodi, fe fydd yn rhaid iddo fe ymdopi â nifer o broblemau ar ôl i’r Elyrch fethu ag ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair ar ddiwedd y tymor diwethaf.
Chwaraewyr yn mynd a dod
Mae eu taliadau parasiwt bellach wedi dod i ben ar ôl tri thymor yn y Bencampwriaeth, ac maen nhw wedi colli llu o chwaraewyr allweddol gan gynnwys Andre Ayew, Freddie Woodman, Marc Guehi a Conor Hourihane.
Mae prinder arian yn y clwb yn golygu mai denu chwaraewyr ifainc oedd polisi Steve Cooper, ond fe fydd hynny’n ddibynnol i raddau helaeth ar gysylltiadau’r rheolwr newydd os nad oes arian ar gael i brynu chwaraewyr mwy profiadol.
Maen nhw eisoes wedi denu enwau llai adnabyddus fel Liam Walsh, Kyle Joseph a Joel Piroe, ond fe fydd angen mwy o opsiynau arnyn nhw ym mlaen y cae.
Ac mae hynny cyn hyd yn oed sôn am y chwaraewyr hynny mae eu cytundebau’n dod i ben ymhen blwyddyn – Jake Bidwell, Kyle Naughton, Yan Dhanda, George Byers, Connor Roberts, Ben Hamer, Korey Smith a’r capten Matt Grimes.
Ond fe fydd trosglwyddiadau i mewn ac allan, wrth gwrs, yn dibynnu ar benderfyniadau’r rheolwr, pwy bynnag fydd hwnnw.