Ar ôl curo Swydd Warwick o ddwy wiced yn eu gêm 50 pelawd gyntaf yng Nghwpan Royal London ddydd Iau (Gorffennaf 22), mae Morgannwg wedi cynnal eu record ddi-guro yn y gystadleuaeth ar ôl trechu Swydd Northampton oddi cartref o 59 rhediad.
Tarodd Hamish Rutherford o Seland Newydd 86 ar frig y batiad i Forgannwg, ac roedd y wicedwr wrth gefn Tom Cullen 58 heb fod allan ar ddiwedd y batiad wrth iddyn nhw sgorio 295 am chwech.
Roedd cyfraniadau sylweddol gan Joe Cooke gyda’r bat a’r bêl hefyd, wrth iddo fe sgorio 33 heb fod allan cyn cipio tair wiced am 32 a chipiodd Michael Hogan dair wiced hefyd am 26.
Yn y maes, cipiodd Cullen dri daliad a Nick Selman bedwar.
Wrth iddyn nhw gwrso 296 i ennill, collodd Swydd Northampton wicedi’n rhy aml o lawer, a dim ond Ben Curran (55), Saif Zaib (41) a Tom Taylor (65 heb fod allan) oedd wedi cyfrannu gyda’r bat.
Manylion y gêm
Cafodd seiliau batiad Morgannwg eu gosod gan Hamish Rutherford a Nick Selman wrth iddyn nhw adeiladu partneriaeth agoriadol o 68, cyn i Selman gael ei ddal gan y troellwr llaw chwith Freddie Heldreich oddi ar ei fowlio’i hun yn ei gêm gyntaf i Swydd Northampton.
Cipiodd e ail wiced pan fowliodd e Steven Reingold am 16, gyda Morgannwg yn 106 am ddwy ar ôl 24 pelawd.
Cipiodd Heldreich ddaliad wedyn yn safle’r goes fain i waredu’r capten dros dro Kiran Carlson am 15 oddi ar fownsar gan Ben Sanderson, gyda Rutherford allan ddwy belawd yn ddiweddarach wrth i Sanderson ei fowlio oddi ar ymyl ei fat i adael Morgannwg yn 154 am bedair.
Collodd Morgannwg eu trydedd wiced o fewn 5.2 pelawd am 23 rhediad pan gafodd Billy Root ei ddal gan Charlie Thurston yn sgwâr ar ochr y goes oddi ar fowlio Tom Taylor.
Adeiladodd Tom Cullen a Callum Taylor bartneriaeth o 60 oddi ar ddeg pelawd gyda chyfres o ergydion i’r ffin cyn i Taylor ergydio’n wyllt oddi ar fowlio Tom Taylor a chael ei fowlio.
Aeth Cullen a Cooke ati wedyn i gosbi Sanderson a Wayne Parnell, cyn-fowliwr cyflym llaw chwith Morgannwg.
Fe wnaethon nhw daro 23 oddi ar un o belawdau Sanderson, wrth iddyn nhw sgorio 66 oddi ar y pum pelawd olaf.
Cyrhaeddodd Cullen ei hanner canred oddi ar 40 o belenni.
Amddiffyn y nod
Dechreuodd batiad Swydd Northampton yn llwyddiannus i Forgannwg, wrth i Michael Hogan ddarganfod ymyl bat yr agorwr Emilio Gay i roi daliad i Cullen, cyn bowlio Rob Keogh i adael y Saeson yn 49 am dair yn y nawfed pelawd, ar ôl iddyn nhw hefyd golli’r capten Ricardo Vasconcelos a gafodd ei ddal gan Cullen oddi ar fowlio Lukas Carey.
Er i Ben Curran a Saif Zaib geisio cosbi’r bowlwyr di-brofiad Reingold ac Andrew Gorvin, y bowlwyr enillodd y frwydr.
Cyrhaeddodd Curran ei hanner canred oddi ar 50 o belenni, ac fe ychwanegodd e a Zaib 65 at y sgôr cyn i’r Saeson golli tair wiced am 18 mewn pedair pelawd.
Cafodd Curran ei ddal gan Cullen oddi ar fowlio Cooke, cyn i Hogan waredu Thurston, a gafodd ei ddal yn syth ar ochr y goes cyn i Zaib dynnu pelen gan Cooke at Selman yn sgwâr ar ochr y goes.
Cafodd Parnell ei fowlio gan Cooke i adael Swydd Northampton yn 150 am saith ym mhelawd rhif 31, cyn iddyn nhw golli Graeme White a Sanderson i ddaliadau gan Selman, y naill oddi ar fowlio Taylor a’r llall oddi ar fowlio Carey.
Daeth yr ornest i ben pan gafodd Heldreich ei redeg allan gan Billy Root, a Swydd Northampton i gyd allan am 236.
Taith i Taunton sydd gan Forgannwg nesaf, a hynny ar ddydd Mercher (Gorffennaf 28).