Mae Lauren Williams o’r Coed Duon wedi cyrraedd rownd derfynol taekwondo yn y categori pwysau hyd at 67kg.

Fe drechodd hi Ruth Gbagbi, a gafodd fedal efydd yn Rio 2016, mewn gornest gyffrous.

Llwyddodd hi i gael mantais dros ei gwrthwynebydd yn fuan cyn ennill o 24 pwynt i 18.

Bydd Williams, sy’n 22 oed, yn wynebu’r athletwraig sy’n rhif un yn netholion y byd, Matea Jelic, nesaf.