Mae Rassie Erasmus, prif hyfforddwr tîm rygbi De Affrica, yn parhau i feirniadu’r Llewod ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae e wedi postio deunydd fideo o’r prawf cyntaf i awgrymu bod y Llewod yn euog o chwarae’n “ddiofal a pheryglus”.

Enillodd y Llewod o 22-17 yn Cape Town i fynd ar y blaen o 1-0 yn y gyfres.

Ond mae’r fideo’n dangos tacl gan Ali Price ar Cheslin Kolbe ar yr ystlys, cyn i Mako Vunipola godi Kolbe oddi ar y llawr.

“Plis peidiwch byth â symud na chyffwrdd â chwaraewr sydd wedi’i anafu ar lawr, mae’n ddiofal ac yn beryglus!” meddai Rassie Erasmus.

Mae cyfrif arall ar Twitter yn defnyddio’r un math o graffeg i dynnu sylw at y digwyddiad, sydd wedi arwain at amheuon fod Erasmus yn defnyddio cyfrif ffug.

Daw hyn ar ôl iddo fe dynnu sylw at “benderfyniadau amheus” gan y dyfarnwr a’i gynorthwywyr y diwrnod blaenorol.