Mae adroddiadau’n awgrymu bod gan Fulham ddiddordeb mewn prynu Matt Grimes, capten tîm pêl-droed Abertawe – ac mai John Terry fydd rheolwr nesa’r Elyrch.

Mae’n debygol y bydd Grimes, y chwaraewr canol cae 26 oed, yn gadael Stadiwm Liberty yr haf hwn, gan mai dim ond blwyddyn sydd ganddo’n weddill ar ei gytundeb.

Golyga hynny y gallai’r chwaraewr canol cae adael y clwb yn rhad ac am ddim haf nesaf, ac mae’n debyg nad yw Abertawe ond yn gallu fforddio cynnig cytundeb newydd ar gyflog is iddo.

Mae Grimes wedi bod yn un o chwaraewyr gorau Abertawe ers iddyn nhw ddisgyn o’r Uwch Gynghrair yn 2018.

Yn ôl adroddiadau, mae Abertawe eisiau £5m amdano, ond mae’n bosib y bydd yn rhaid iddyn nhw dderbyn ffi tipyn yn is na hynny.

Cyfnod cythryblus

Mae’ hi’n gyfnod cythryblus i Abertawe ar hyn o bryd, gyda John Eustace, is-reolwr tîm pêl-droed QPR, wedi gwrthod swydd rheolwr y clwb.

Ar ben hynny, mae eu taliadau parasiwt bellach wedi dod i ben ar ôl tri thymor yn y Bencampwriaeth, ac maen nhw wedi colli llu o chwaraewyr allweddol gan gynnwys Andre Ayew, Freddie Woodman, Marc Guehi a Conor Hourihane.

Ac fel Grimes, mae cytundebau nifer o chwaraewyr eraill yn dod i ben ymhen blwyddyn.

Mae’r rhain yn cynnwys Jake Bidwell, Kyle Naughton, Yan Dhanda, George Byers, Connor Roberts, Ben Hamer a Korey Smith.

Ond mae datblygiad diddorol heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 26) yn y ras i benodi rheolwr newydd cyn dechrau’r tymor.

Mae John Terry newydd adael ei swydd yn is-reolwr Aston Villa, ac mae’r bwcis wedi dechrau gwrthod arian sy’n cael ei roi ar y Sais i fod yn rheolwr nesaf Abertawe, sy’n awgrymu mai fe bellach yw’r ffefryn clir.