Mae’r athletwraig taekwondo, Lauren Williams, wedi llwyddo i gael medal arian yng nghategori pwysau hyd at 67kg yn y Gemau Olympaidd yn Tokyo.

Daeth y Gymraes o fewn eiladau i gipio’r fedal aur, ond wedi ymgais hwyr gan ei gwrthwynebydd Matea Jelic, collodd hi’r ornest o 25 pwynt i 22.

Roedd Williams, sy’n 22 oed, ar y blaen ar ddiwedd y rownd gyntaf ac yn yr hanner munud olaf, ond doedd hynny ddim yn ddigon i atal Jelic ennill o drwch blewyn.

Anafiadau

Mae’r ferch o’r Coed Duon wedi dod yn ôl o gyfnod o anafiadau y llynedd i gyrraedd y rownd derfynol yn ei champ eleni.

Er bod ganddi ddwy fedal aur Ewropeaidd, doedd hi ddim yn un o ffefrynnau tîm Prydain eleni, yn enwedig ar ôl iddi ddioddef anaf i’w ffer a roddodd ei chyfle o gystadlu yn y Gemau o dan fygythiad.

Ond ar ôl cael ei chadarnhau i gystadlu, fe lwyddodd i drechu dwy athletwraig oedd wedi ennill medal efydd yng Ngemau Olympaidd Rio 2016 ar ei ffordd i’r rownd derfynol.

“Mae fy hanes anafiadau bron yn chwerthinllyd mewn gwirionedd,” meddai Williams.

“Dwi wastad wedi brwydro gydag anafiadau ond dydyn nhw ddim yn fy nychryn i.

“Maen nhw’n fy ngwneud i’n fwy penderfynol o chwilio am ffyrdd i barhau i wella.”

“Dwi’n hollol gutted,” ychwanegodd Williams am ei cholled funud olaf.

“Roeddwn i’n gwybod fy mod i’n ennill ond doeddwn i ddim yn gwybod mai dim ond 10 eiliad oedd ar ôl. Fe wnes i gamgymeriad ac mae’n rhaid i mi dderbyn hynny a symud ymlaen.

“Fe wnaeth e atgoffa fi o bencampwriaeth y byd yn 2017 pan wnes i’r union beth. Mae’n rhywbeth meddyliol y mae’n rhaid i mi oresgyn – nawr bod y camgymeriad wedi’i wneud ar lwyfan mwyaf fy ngyrfa, mae hynny’n ergyd ynddo’i hun, a gobeithio na fydd byth yn digwydd eto.”

“Mae’r penderfynoldeb y ferch yn gwbl hynod.”

Cafodd Williams ei hysbrydoli i gystadlu mewn taekwondo ar ôl gweld y Gymraes, Jade Jones, yn ennill medal aur yng Ngemau Olympaidd Llundain yn 2012.

Newidiodd i wneud taekwondo o cic-bocsio yn ei harddegau cynnar, gan ddechrau ar y gamp yng nghlwb cic-bocsio’r Coed Duon, cyn symud gyda’i mam i gyffiniau Manceinion er mwyn hyfforddi yn y ddinas yn ddyddiol.

Bu’n byw yno mewn carafán gyda’i mam am 18 mis er mwyn bod yn agos at wersyll hyfforddi tîm Prydain Fawr ym Manceinion.

Ac mae aberth anhygoel Lauren Williams wedi cael ei bwyslesio gan Sarah Stevenson, enillydd medal taekwondo gyntaf erioed Prydain Fawr yn Beijing yn 2008, a ddywedodd: “Mae’r penderfynoldeb y ferch yn gwbl hynod.”

“Mae Lauren yn ymladdwr llwyr, gallwch ei weld yn ei hwyneb ei bod am frifo pobl ac rwy’n credu ei bod yn rhyfeddol am hynny, rwy’n caru hynny amdani,” meddai Stevenson.

“Does dim llawer o ferched sydd eisiau mynd allan yno a rhwygo rhywun i fyny. Mae ganddi ymddygiad ymosodol mor gryf y tu mewn iddi. Mae hi wedi gweld pobl fel fi a wedyn Jade Jones i fyny yno.

“A lle mae hi ar hyn o bryd yw lle mae hi wastad wedi bod eisiau bod ers pan oedd hi tua 10 oed.

“Roedd hi’n byw mewn carafán gyda’i mam, jyst er mwyn byw ym Manceinion, jyst er mwyn cyrraedd lle mae hi nawr. Mae penderfynoldeb y ferch yn gwbl hynod.”