Mae amheuon ynglyn â ffitrwydd y Cymro Wyn Jones cyn ail brawf y Llewod Prydeinig a Gwyddelig yn erbyn De Affrica.

Enillodd carfan Warren Gatland y prawf cyntaf yn Cape Town nos Sadwrn (24 Gorffennaf) 22-17.

Ond er iddo gael ei enwi yn y tîm i ddechrau’r prawf hwnnw, bu’n rhaid i’r prop sy’n chwarae i’r Scarlets, dynnu allan ar ôl anafu ei ysgwydd.

Dechreuodd yr Albanwr Rory Sutherland yn ei le, gyda’r Sais Mako Vunipola yn ennill lle ar y fainc.

Mae Steve Tandy, hyfforddwr amddiffyn y Llewod wedi dweud y gallai’r anaf gadw Wyn Jones allan o’r ail brawf hefyd.

Bydd yr ail brawf yn cael ei chwarae ddydd Sadwrn (31 Gorffennaf), gyda’r gic gyntaf am 5 o’r gloch ac yn cael ei ddarlledu’n fyw ar Sky Sports.

Finn Russell yn dychwelyd

Mae’r maswr Finn Russell yn dychwelyd i hyfforddi gyda’r Llewod heddiw (dydd Llun, 26 Gorffennaf).

Nid yw’r Albanwr wedi chwarae ers niweidio ei bigwrn yn ystod y fuddugoliaeth 54-7 dros y Sharks ar 7 Gorffennaf.

Bydd y Llewod yn cynnal cyfarfod i drafod pwy fydd yn chwarae ddydd Llun (26 Gorffennaf) ac yn cyhoeddi’r tîm ar gyfer yr ail brawf ddydd Mawrth (27 Gorffennaf).

“Rwy’n gwybod bod Finn wedi bod yn ymateb yn dda i’r hyfforddiant y mae wedi bod yn ei wneud felly byddwn yn trafod hynny i gyd heno,” meddai Steve Tandy.

Y Cymro Dan Biggar wnaeth ddechrau yn safle’r maswr yn y prawf cyntaf, gan sgorio 14 o bwyntiau.

Ond bu’n rhaid iddo ddod oddi ar y cae gydag anaf i’w ben, a daeth capten Lloegr Owen Farrell ymlaen yn ei le.

“Mae Biggs yn mynd drwy’r protocolau er mwyn dychwelyd i chwarae. Roedd e’n iawn yn yr ystafell newid ac mae e wedi dechrau’r rheiny nawr,” ychwanegodd Steve Tandy.

“Dylai Dan, os yw popeth yn iawn, fod ar gael i hyfforddi ddydd Iau.”