Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau bod Albert Stuivenberg wedi gadael ei swydd fel Dirprwy Hyfforddwr Cymru.
Bydd yn awr yn canolbwyntio ar ei waith fel hyfforddwr gydag Arsenal, o dan y rheolwr Mikel Arteta.
Fe ymunodd fel hyfforddwr i Gymru gyda Ryan Giggs yn 2017, ar ôl i’r ddau dreulio cyfnod yn cydweithio gyda Manchester United pan roedd Louis van Gaal yn rheolwr.
Chwaraeodd ran allweddol yn y llwyddiant ddaeth yng Nghynghrair y Cenhedloedd y llynedd, a rowndiau terfynol Ewro 2020 gyda Chymru yn cyrraedd yr 16 olaf.
“Mae wedi bod yn fraint ac anrhydedd bod yn rhan o’r daith,” meddai Albert Stuivenberg.
“Mae wedi bod yn gyfnod cyffrous ac rydw i wedi dysgu llawer ar ac oddi ar y cae.
“Rydw i yn diolch i’r chwaraewyr ac i’r cefnogwyr am eu brwdfrydedd anhygoel.”
Canu clodydd Albert Stuivenberg
Un dyn sydd â dim amheuaeth am ddylanwad Albert Stuivenberg dros bêl-droed Cymru dros y pedair blynedd diwethaf yw sylwebydd rhaglen Sgorio S4C, Nic Parry.
“Dw i’n meddwl ei fod o wedi bod yn gymaint o gymorth i Ryan Giggs ac yr oedd o wedi bod i Rob Page,” meddai wrth golwg360.
“Yn amlwg, roedd pobol yn teimlo rhyw elfen o ryddhad bod o yna pan ddaru Rob Page orfod cymryd drosodd gan Ryan Giggs.
“Roedd pawb yn hollol hapus bod Rob Page yn adnabod y chwaraewyr, roedd o wedi magu nhw yn y lefelau is, ond doedd ganddo fo ddim y profiad yna – heb gymorth – ar y lefel uchaf… a dyna ydi pêl-droed rhyngwladol, y lefel uchaf un.
“A dw i ddim yn meddwl y bydda fo wedi cael y swydd oni bai bod Stuivenberg yna na chwaith y bydda fo wedi gwneud gymaint o lwyddiant ohoni oni bai bod Stuivenberg yna.
“Dw i’n meddwl ei fod o wedi bod yn andros o help i Ryan Giggs hefyd achos roedd o’n ddibrofiad hefyd – mewn ffordd wahanol i Rob Page – roedd Ryan o leiaf wedi chwarae o dan rhai o’r rheolwyr gorau yn y byd.
“Ond roedd o dal yn ddi-brofiad ac roedd o angen cymorth gymaint ag yr oedd Rob Page.”
“Dewr iawn” cael gwared ar Rob Page
Mae Nic Parry yn credu y byddai’n benderfyniad “dewr iawn” cael gwared ar Rob Page fel Prif Hyfforddwr Cymru.
“Mae Rob Page rŵan mewn sefyllfa gryfach achos mae o wedi cael bwrw ei brentisiaeth gyda Stuivenberg ac mae o wedi cael llwyddiant,” eglura.
“A dw i yn meddwl y byddai o’n benderfyniad dewr iawn i beidio cadw Rob Page yn y swydd.
“A dw i’m yn meddwl bod y Gymdeithas yn chwilio am esgus i’w newid o.”
Pwy felly sy’n debygol o olynu Albert Stuivenberg?
“Y sôn dadleuol ac annhebygol ydi Craig Bellamy, ond oherwydd ei helyntion o dw i’n meddwl bod honna yn ‘non starter’,” meddai Nic parry.
“Ac fel mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi profi efo’i benodiad Prif Weithredwr, dydyn nhw ddim yn mynd i gyfyngu ei hunain i rywun o Gymru.
“Dw i wedi cael fy synnu at ba mor feiddgar, mentrus ac uchelgeisiol maen nhw wedi bod yn penodi’r Prif Weithredwr newydd ’ma… maen nhw wedi cael dyn hynod o brofiadol.
“Mae byd pêl-droed yn fawr iawn ac mae’n rhaid cofio hynny.”
Beth am Osian Roberts?
“Y cwestiwn mawr wrth gwrs ydi – achos does yna ddim byd wedi’i gadarnhau – beth fydda’n digwydd tasa Osian Roberts yn dod yn ôl?” meddai wedyn.
“Y tro diwethaf i mi drafod y peth, y sôn oedd ei fod o’n mynd i Crystal Palace.
“Wedyn mi aeth y stori yn dawel, ac wedyn yn sydyn mae o wedi gadael (ei swydd gyda Morocco) ac mae rhai pobol yn gwbl ddealladwy wedi meddwl/gobeithio y bydda fo’n mynd i Abertawe.
“Ond dw i’n meddwl y byddai mynd i Abertawe fel rheolwr yn andros o risg iddo fo heb fwrw ei brentisiaeth fel is-reolwr clwb, yn hytrach nag is-reolwr rhyngwladol.”
Ydi Nic Parry yn gweld Osian Roberts yn dychwelyd i swydd gyda Chymru?
“Mae sefyllfa Cymru’n un ofnadwy o ddiddorol ar hyn o bryd,” meddai.
“Dw i ddim yn gweld (Osian Roberts) yn mynd yn ôl, falle mod i’n gwbl anghywir yn fan hyn ond dw i’n dueddol o feddwl amdano fo fel dyn sydd wastad yn edrych ymlaen at yr her nesaf.
“Ac oni bai ei fod o’n cael ei benodi fel rheolwr, dw i’m yn gweld y basa fo yn mynd yn ôl.
“Tasa fo yn mynd yn ôl, wedyn mae hi’n fater o’r ddynameg rhyngddo fo a Rob Page… a fedra un fynd yn ôl i fod yn is-reolwr?
“Achos dyna oedd yr hierarchy pan oedd o yna, roedd hi’n Chris wedyn Osian ac wedyn Rob.
“Ond fel dw i’n dweud, dw i ddim yn gweld hynny yn digwydd.
“Dw i’n meddwl ei fod o isio her wahanol ac o bosib drwy gyflawni’r her wahanol yna gwneud ei hun yn gryfach ymgeisydd ar gyfer swydd Cymru pan maen nhw yn chwilio am reolwr newydd.”
‘Angen tactegydd’
Y peth pwysicaf i Gymru wrth iddyn nhw edrych am rywun i lenwi swydd Albert Stuivenberg yw penodi tactegydd, yn ôl Nic Parry.
“Mae angen penodi tactegydd go iawn,” meddai.
“Does yno ddim llawer o bwynt meddwl am enwau achos mi fasa nhw’n gallu dod o unrhyw le yn y byd.
“Ond os fydd o’n John Terry, sydd wedi gadael ei swydd heddiw, fe wna i stopio dilyn Cymru!” meddai wrth chwerthin.
Wrth droi yn ôl at ystyried y tactegydd sydd ei angen ar Gymru, dywedodd Nic Parry y gallai’r Gymdeithas gymryd ysbrydoliaeth gan y ffordd mae Abertawe wedi penodi rheolwyr ac is-reolwyr dros y blynyddoedd.
“Fel mae’r gêm yn mynd yn ei flaen, ti’n meddwl am y bachgen yna roedd Abertawe yn gobeithio ei benodi.
“Is-reolwr QPR, John Eustace, ond tactegydd ydi o.
“Doedd neb wedi clywed amdano fo, ond mae Abertawe wastad yn penodi’n dda, pobol glyfar, pobol tactegol, ac mae isio i Gymru feddwl felly hefyd efo’r penodiad yma.”