Mae Tom Dean wedi ennill y fedal aur yn ras nofio 200m dull rhydd y dynion yn y Gemau Olympaidd yn Tokyo, a Duncan Scott wedi dod yn ail.

Dyma’r tro cyntaf i ddau nofiwr Prydeinig gwrywaidd rannu’r podiwm yn y Gemau Olympaidd ers gemau 1908 yn Llundain.

Er bod Tom Dean, a gafodd ei heintio gyda Covid-19 ddwywaith y llynedd, yn drydydd wrth fynd mewn i’r 50 medr olaf, a Duncan Scott yn y chweched safle wrth gyrraedd hanner ffordd drwy’r ras, gorffennodd y ddau’n gryf.

Gorffennodd Tom Dean gydag amser o un munud a 44.22 eiliad, 0.4 eiliad ar y blaen i’r Albanwr Duncan Scott.

Fernando Scheffer o Frasil ddaeth yn drydydd, gan orffen 0.4 eiliad ar ôl Duncan Scott.

“Brwydr agos”

“Ro’n i’n gwybod ei bod hi am fod yn frwydr agos. Doeddwn i ddim yn gwybod sut fyddai pobol yn nofio hi,” meddai Tom Dean wrth y BBC.

“Dw i just eisiau dweud diolch wrth bawb yn ôl adre. Does gen i ddim geiriau. Mae’n anhygoel.”

“Clod anferth i Dean. Roedd hynna’n anghredadwy. Pencampwr Olympaidd. Mae e wedi dod mor bell yn y deunaw mis diwethaf, mae hi wedi bod yn bleser ei wylio,” meddai Duncan Scott.

“Mae’n wych gallu dweud ei fod e’n ffrind da tu allan i’r pwll, ac mae hi’n wych gallu cystadlu yn ei erbyn hefyd.”