Mae tri newid yng ngharfan rygbi’r Llewod ar gyfer yr ail brawf yn erbyn De Affrica yn Cape Town, gyda Conor Murray, Chris Harris a Mako Vunipola yn dod i mewn i’r pymtheg fydd yn dechrau’r gêm.
Daw’r Gwyddel Murray i mewn yn lle’r Albanwr Ali Price yn safle’r mewnwr, gyda Price wedi’i enwi ymhlith yr eilyddion.
Fe wnaeth Vunipola argraff o’r fainc yn y rheng flaen yn y prawf cyntaf, ac mae Rory Sutherland felly yn gollwng i’r fainc yn dilyn problemau yn y chwarae gosod ac yn sgil yr anaf i ysgwydd Wyn Jones.
Daw Harris i mewn i’r garfan yn lle Elliot Daly yn y canol ar ôl methu â chyrraedd y 23 ar gyfer y prawf cyntaf.
Does dim lle i Liam Williams ar y fainc, gyda Daly yn cynnig opsiynau gwahanol gan ei fod e’n gallu chwarae mewn sawl safle ymhlith yr olwyr.
Hefyd ar y fainc mae’r wythwr o Gymru, Taulupe Faletau, sy’n cymryd lle’r Albanwr Hamish Watson.
Mae’r mawr o Gymru, Dan Biggar, hefyd wedi cadw ei le ond fe fydd rhaid iddo fe gwblhau’r protocol ar gyfer cyfergyd er mwyn profi ei ffitrwydd.
‘Dewisidau anodd tu hwnt’
Yn ôl y prif hyfforddwr Warren Gatland, roedd “dewisiadau anodd tu hwnt” i’w gwneud wrth i’r Llewod fynd am ail fuddugoliaeth er mwyn ennill y gyfres.
“Fodd bynnag, rydyn ni wedi gwneud y newidiadau rydyn ni’n credu yw’r rhai cywir ar gyfer y gêm y penwythnos hwn,” meddai.
“Bydd hi’n gystadleuaeth dynn eto.
“Rydyn ni’n gwybod y bydd y Springbok yn brifo a byddan nhw’n taflu popeth aton ni ddydd Sadwrn, ond dw i’n credu bod digon i ddod gennym ni hefyd.
“Rydyn ni’n teimlo y gallwn ni godi i lefel arall o le’r oedden ni yn y prawf cyntaf a byddwn i’n disgwyl i ni wella.”
Bydd y gic gyntaf ddydd Sadwrn (Gorffennaf 31) am 5 o’r gloch.
Y tîm
S Hogg (Yr Alban), A Watson (Lloegr), C Harris (Yr Alban), R Henshaw (Iwerddon), D van der Merwe (Yr Alban), D Biggar (Cymru), C Murray (Iwerddon); M Vunipola (Lloegr), L Cowan-Dickie (Lloegr), T Furlong (Iwerddon), M Itoje (Lloegr), A W Jones (Cymru, capten), C Lawes (Lloegr), T Curry (Lloegr), J Conan (Iwerddon).
Eilyddion
K Owens (Cymru), R Sutherland (Yr Alban), K Sinckler (Lloegr), T Beirne (Iwerddon), T Faletau (Cymru), A Price (Yr Alban), O Farrell (Lloegr), E Daly (Lloegr).