Mae cyn-bêldroediwr wnaeth dreulio cyfnod yn chwarae i Gasnewydd wedi cael ei garcharu ar ôl cael ei ddal â gwerth £11,000 o gocên yn ei feddiant.

Cafodd Kaid Mohamed ei ddedfrydu i 28 mis yn y carchar yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun (Gorffennaf 26), ar ôl pledio’n euog i fod â chyffuriau Dosbarth A yn ei feddiant gyda’r bwriad o gyflenwi.

Cafodd ei hanner brawd, Jacob Howell, ddedfryd ohiriedig o chwe mis o garchar, a gorchymyn i gyflawni 200 awr o waith di-dâl.

Fe wnaeth yr heddlu ddarganfod 144g o gocên yn ystod cyrch ar eiddo mam Kaid Mohamed yn Heol Trelai, Caerdydd, ar Chwefror 21, a hithau wedi marw’n ddiweddar.

Roedd Kaid Mohamed wedi bod yn defnyddio’r tŷ i gadw’r cyffur Dosbarth A gyda chymorth Jacob Howell.

Plediodd yn euog i ganiatáu i’r safle gael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgarwch cyffuriau.

Dywedodd y cyn-bêldroediwr wrth swyddogion fod £12,890 a gafodd ei ddarganfod yn y cyfeiriad yn arian o’i yrfa bêl-droed.

Serch hynny, daeth yr heddlu i ddeall mai elw o werthu cocên oedd yr arian.

‘Colli popeth’

Dywedodd cyfreithiwr Kaid Mohamed ei fod yn ddyn oedd wedi “colli popeth” oherwydd ei fod yn gaeth i gamblo.

“Mae’n berson a oedd â phopeth i bob pwrpas ac sydd wedi colli popeth,” meddai.

“Gadawodd ei hun i fynd ar drywydd ffôl i sicrhau arian cyflym mewn ymdrech i wella ei sefyllfa ariannol.

“Mae’n sylweddoli ffolineb hynny a’r canlyniadau, nid yn unig iddo’i hun ond i’w Nain, y mae’n ofalwr iddi, ei gyn-bartner a’i blant.”