Mae Roman Walker, y bowliwr cyflym 20 oed o Wrecsam, yn dweud ei fod e wedi gadael Morgannwg ac wedi symud i Swydd Gaerlŷr yn y gobaith o chwarae ym mhob cystadleuaeth.

Mae e wedi gadael ar fenthyg am weddill yr haf cyn ymuno’n barhaol ar ddiwedd y tymor, ac fe fydd e ar gael ym mhob fformat, ac eithrio’r gêm 50 pelawd yn erbyn Morgannwg yng Nghwpan Royal London ar Awst 5.

Chwaraeodd e 11 o gemau i Forgannwg, lle gwnaeth e lofnodi ei gytundeb proffesiynol cyntaf yn 18 oed yn 2019.

Mae e wedi cipio 13 o wicedi mewn gemau ugain pelawd ar gyfartaledd o 19 a chyfradd o 8.27 y belawd.

Cipiodd e dair wiced am 15 yn erbyn Gwlad yr Haf yng Nghaerdydd ddechrau’r mis, ei ffigurau gorau erioed.

‘Edrych ymlaen at y dyfodol’

“Rydw i wir yn edrych ymlaen at y dyfodol efo’r Running Foxes,” meddai’r gogleddwr.

“Rydw i’n ymuno efo’r clwb er mwyn datblygu fy hun fel chwaraewr gymaint â phosib, a fydd gobeithio yn arwain at berfformiadau da ar y cae dros y tîm.

“Roeddwn i’n awyddus i lofnodi cytundeb tymor hir ac ymrwymo i’r clwb yn y dyfodol gan fy mod i’n credu nad ydi tlysau’n bell i ffwrdd o gwbl, ac roeddwn i am chwarae rhan yn y twf a’r llwyddiant parhaus.

“Rydw i am ddiolch i Paul Nixon [y prif hyfforddwr] am ei ddiddordeb ynof fi, a fedra i ddim aros am y cyfle i brofi fy ngwerth iddo fo, i weddill y clwb, fy nghyd-chwaraewyr a’r cefnogwyr.

“Fedra i ddim aros i gychwyn arni.”