Mae Clwb Pêl-droed Bangor 1876 yn dweud y byddan nhw’n apelio yn erbyn y penderfyniad i’w gwahardd nhw rhag chwarae yng Nghwpan Cymru.

Mewn datganiad, dywed y clwb iddyn nhw gael gwybod ar Orffennaf 23 fod chwaraewr wedi profi’n bositif am Covid-19.

Ar yr un diwrnod, cafodd y clwb wybod y byddai’n rhaid i nifer o chwaraewyr eraill hunanynysu am gyfnod yn unol â’r canllawiau cyfreithiol.

Roedd disgwyl i’r clwb herio Llanerchymedd y diwrnod canlynol, ac fe gawson nhw wybod am y sefyllfa, ynghyd ag Aberffraw ac Amlwch, oedd hefyd yn cael eu heffeithio gan y sefyllfa.

Bydd y gêm gynghrair oddi cartref yn erbyn Amlwch yn cael ei chynnal ar Awst 11 am 7.30yh.

Y gwpan

Ond ar ôl i’r clwb roi gwybod i Gymdeithas Bêl-droed Cymru, maen nhw’n dweud eu bod nhw wedi cael ymateb gan y Bwrdd Clybiau Cenedlaethol.

Roedd y Bwrdd, meddai’r ymateb, yn unfrydol bod rhaid dod i’r casgliad nad oedd y clwb yn gallu cynnal y gêm oedd wedi cael ei threfnu, ac y byddai’n rhaid iddyn nhw ildio eu lle yn y gystadleuaeth.

“Mae’r Bwrdd wedi ystyried yr ymateb hwn ac wedi penderfynu cyflwyno protest i Gymdeithas Bêl-droed Cymru sydd wedi’i hanfon, yn ôl y gofyn, mewn llythyr ynghyd â ffi,” meddai’r clwb mewn datganiad.

“Rydym o’r farn fod egwyddorion pwysig yn y fantol, a bod y rhain yn berthnasol i bob clwb ac yn enwedig pan fydd Covid-19 yn taro.

“Fydd y clwb ddim yn gwneud sylw pellach hyd nes bod y broses brotest ffurfiol ar ben.”