Doedd Geraint Thomas ddim yn llwyddiannus wrth gyrraedd y podiwm yn y ras yn erbyn y cloc y dynion.

Gorffennodd y Cymro’r ras yn y 12fed safle a hynny ddwy funud 42 eiliad tu ôl i’r enillydd.

Yr un a gipiodd y fedal aur oedd Primoz Roglic o Slofenia, a oedd hefyd yn teithio i Tokyo wedi Tour de France siomedig.

Yn ail a thrydydd oedd Tom Dumoulin o’r Iseldiroedd a Rohan Dennis o Awstralia.

Fe wnaeth Thomas fethu â gorffen ras y ffordd ddydd Sadwrn 24 Gorffennaf, sy’n golygu na fydd o’n ychwanegu i’w ddwy fedal aur Olympaidd a enillodd ar y trac yn 2008 a 2012.

Ar ôl Tour de France siomedig hefyd, bydd y gŵr 35 oed nawr yn ceisio gwella ei ffitrwydd cyn dychwelyd at y ddwy olwyn.