Mae’r ddau Gymro Matthew Richards a Calum Jarvis wedi ennill medalau aur yn y pwll nofio yn y Gemau Olympaidd yn Tokyo.

Nhw yw’r athletwyr cyntaf o Gymru i wisgo aur yn y Gemau Olympaidd eleni.

Daeth buddugoliaeth Richards yn y ras gyfnewid 4x200m dull rhydd, lle’r oedd yn cystadlu gyda thri arall o Brydain.

Llwyddodd y tîm hwnnw i orffen o dros dair eiliad i dîm Pwyllgor Olympaidd Rwsia a oedd yn ail.

Roedd Jarvis wedi bod yn rhan o’r tîm ras gyfnewid yn y rowndiau rhagbrofol, felly fe fydd o’n derbyn medal aur hefyd er ei fod yn absennol o’r ffeinal.

Does neb o Gymru wedi ennill medal aur yn y pwll nofio ers Gemau Olympaidd Stockholm 1912.

Campau eraill

Yn y gystadleuaeth rhwyfo, cafodd y Cymro Tom Barras fedal arian fel rhan o’r tîm sgwlio pedwarplyg (quadruple sculls).

Methodd y seiclwr Geraint Thomas a chael lle ar y podiwm yn y ras yn erbyn y cloc y dynion, gan orffen yn y 12fed safle.

Mae’r bocsiwr Lauren Price hefyd wedi ennill ar benderfyniad unfrydol yn rownd gyntaf pwysau canol y merched.