Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd yn wynebu pryderon am anafiadau ac achosion Covid-19 cyn eu gêm agoriadol yn y Bencampwriaeth y tymor hwn.

Nid yw Kieffer Moore, Rubin Colwill a Leandro Bacuna wedi dychwelyd i hyfforddi’n llawn eto wrth iddynt wella o’r coronafeirws.

Mae’r Capten Sean Morrison yn gwella o anaf i’w benelin, tra bod Curtis Nelson wedi dychwelyd ar ol hernia, a Josh Murphy wedi gwella o anaf i linyn y gar.

Bydd Caerdydd yn herio Barnsley yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 7 Awst.

“Cawn weld be ddaw, ond alla i ddim eu gweld nhw i gyd yn holliach ar gyfer y gêm gyntaf,” meddai’r rheolwr Mick McCarthy.

“Mae Perry Ng yn gwella o Covid – mae’n dal i deimlo effeithiau hynny.

“O ran Tom Sang, rwy’n gobeithio y bydd y pigiad ar ôl cael llawdriniaeth ar ei fodyn yn gweithio a bydd ar gael.

“Rwy’n credu y bydd Sean Morrison yn cymryd rhan ddydd Sadwrn [mewn gem gyfeillgar yn erbyn Casnewydd].

“Mae Rubin a Kieffer wedi dod yn ôl o ddyletswydd ryngwladol felly maen nhw wedi cael seibiant ac yna maen nhw wedi cael Covid-19, felly dim ond newydd ddychwelyd i hyfforddi maen nhw.

“Aeth Leo Bacuna i ffwrdd ar ddyletswydd ryngwladol [gyda Curacao], ac mae ef yn hunanynysu gyda Covid.

“Felly roedd yn mynd i fod yn gêm galed beth bynnag ond, gyda’r rhestr honno o anafiadau sydd gennym, nid yw’n ei gwneud yn haws.”