Wrth i ddiwedd wythnos gyntaf y Gemau Olympaidd yn Tokyo agosáu, rydyn ni erbyn hyn wedi gweld bron pob un gamp sydd ar yr amserlen.

Mae eleni’n nodweddiadol gan fod newid sylweddol yn yr amserlen, gyda nifer o gampau newydd yn ymddangos neu’n ailymddangos, yn cynnwys syrffio, pêl fas, sglefr fyrddio a karate.

Mae hyn yn golygu bod mwy o gampau nag yr un Gemau Olympaidd o’r blaen, gyda 50 ohonyn nhw i gyd.

Rhwng 3 a 6 Awst, bydd y cystadlaethau dringo yn digwydd, ac un sy’n angerddol iawn am y gamp ydy’r dringwr Ioan Doyle.

Mae Ioan, sy’n fugail o ddydd i ddydd, wedi bod ledled y byd i lefydd fel De America a’r Alpau yn dringo creigiau.

O’r copaon uchaf i’r medalau disgleiriaf

Wrth weld dringo yn cael statws chwaraeon Olympaidd, mae Ioan yn dweud wrth golwg360 bod ganddo deimladau cymysg am hynny.

“Mae’n ffantastig i bobl ifanc sydd yn y chwaraeon allu datblygu i fynd am fedal Olympaidd,” meddai.

“Beth sydd wedi digwydd ydy bod dringo wedi newid yn syfrdanol – mae’n trendi wan i fynd at wal ddringo, fel mynd i’r gym neu i’r ganolfan hamdden.

“Mae pobl yn cael eu denu gan yr elfen ‘barod’ o’r gamp… lle ti’n talu dy ffi, mynd fyny wal ddringo, a chael ymarfer corff wedi ei wneud.

“Gan fod dringo wedi codi o ran cydnabyddiaeth fel chwaraeon trendi, dw i’n teimlo bod yr uchafbwynt o goncro’r copaon uchaf a dringfeydd newydd wedi newid i fod yn uchafbwynt o gystadlu yn erbyn pobl, yn enwedig yn y Gemau Olympaidd.

“Mae’n anhygoel bod y gamp ar lwyfan y byd, ond i fi mae’n bwysig i bobl wybod bod yna wahaniaeth mawr rhwng dringo mynyddoedd a dringo y tu mewn.”

‘Crefydd a bywoliaeth’

Mae Ioan yn credu bod dringo yn yr awyr agored o amgylch y byd wedi rhoi profiadau pwysig iddo.

“Wrth gwrs, rhan fach o fod allan ar y creigiau yw bod y gorau yn dy faes, ond mae’n llawer mwy ysbrydol na hynny,” eglurodd.

“Yn bersonol, mae’r copaon, yr eira, a’r creigiau yn rhedeg trwy fy ngwythiennau i.

“Dw i ddim yn poeni os ydy’r chwaraeon yn mainstream, achos i fi ac i lawer o bobl, mae’n grefydd a bywoliaeth.

“Dw i’n adnabod rhai sy’n hollol yn erbyn y gamp yn Olympaidd, achos bod hi yn rhyfedd gweld fersiwn artiffisial ohono.

“Ar y llaw arall, mae cystadleuwyr fel Shauna Coxsey a Molly Thompson-Smith yn ddringwyr anhygoel tu fewn a thu allan.

“Ond fel arfer, mae dringwyr yn bobl sydd heb fynd yn bell mewn chwaraeon arall, ac mae’r gamp yn apelio at y rhai amgen hynny – y rhyfeddodau fel petai!

“Dw i’n gwerthfawrogi bod rhai am ei wneud yn broffesiynol, ond mae’n rhaid cofio’r elfennau traddodiadol hynny.”

Pryderu am Tokyo

Mae Ioan yn gobeithio na fydd y Gemau yn dylanwadu pobl i deithio dramor i ddringo tan fod y pandemig drosodd, yn enwedig ar ôl gweld mewnlifiad o ddringwyr yn ardal Eryri yn ddiweddar.

“Wrth edrych ar ein hardal ni ers codi’r cyfyngiadau, mae lot o bobl yn dod yma ac mae wedi cael ei gam-drin, felly mae hynny yn tynnu oddi wrth elfennau gwreiddiol y gamp,” dywedodd.

“Mae’r miri yma efo Covid a’r ffaith bod y Gemau Olympaidd rhywsut yn mynd yn eu blaen er gwaethaf yr holl amheuon, dw i’n gobeithio gwneith hynny ddim dylanwadu ar bobl i deithio dramor.

“Rydyn ni wedi gweld trafferthion yn yr Himalayas ar hyn o bryd lle mae pobl yn mynd i’r wlad er bod pobl leol yn dioddef.

“Mae’n bwysig bod dringwyr yn dod drosodd fel pobl dda, a ddim pobl sy’n dod i gymryd mantais.”

Wrth edrych ar ddyfodol y gamp, mae Ioan yn ystyried sut gallith pobl barhau i ddringo heb adael eu hôl ar gymunedau tramor a’r blaned.

“Dw i’n ymwybodol fy mod i wedi llosgi lot o betrol awyrennau yn mynd rownd y byd i ddringo, ond mae’n bryd inni feddwl mewn ffordd wahanol am sut i barhau efo’r gamp [efo newid hinsawdd].”

“Da ni’n lwcus bod yna lefydd anhygoel yn ein gwlad ni i allu dringo, fel ein bod ni ddim yn gorfod teithio.”

Effaith y Gemau?

Gyda’r Gemau’n cael eu gwylio gan ddegau o filiynau o bobl o gwmpas y byd, mae Ioan yn ystyried sut effaith gawn nhw ar y diddordeb mewn dringo.

“Mae pobl yn gwylio’r Gemau ledled y byd, a hwyrach neith hyn ysbrydoli mwy o bobl i gymryd rhan yn y gamp a’r waliau neu ar greigiau,” meddai Ioan.

“Dydy dringo erioed wedi cael y chwarae teg mae angen, efallai am ei fod yn cael ei weld fel rhywbeth peryglus neu’n rhywbeth sy’n elitaidd ac ecsgliwsif.

“Anodd credu y gwneith hynny newid dros nos, ond gobeithio bydd na fwy o arian wedi’r Gemau i ddatblygu adnoddau’r gamp.”

“Rhaid edrych ar sut mae [bod yn y Gemau] wedi effeithio campau fel … rhwyfo a chanŵio – gyda chanolfannau’n cael eu datblygu yn y wlad yma sydd ymysg y gorau yn y byd.”