Fe wnaeth Ben Green serennu gyda’r bat a’r bêl wrth i Wlad yr Haf guro Morgannwg o un rhediad mewn gêm 50 pelawd yng Nghwpan Royal London neithiwr (nos Fercher, Gorffennaf 28).
Tarodd y capten 11 pedwar ac un chwech wrth iddo fe sgorio 87 oddi ar 72 o belenni wrth i’w dîm sgorio 180 am saith yn eu batiad.
Gornest 37 pelawd oedd hi o ganlyniad i’r glaw, a tharodd Billy Root a Tom Cullen 37 yr un i Forgannwg wrth iddyn nhw frwydro’n arwrol.
Ond cipiodd Green ddwy wiced, gyda Sonny Baker hefyd yn cipio dwy am 41, a Kasey Aldridge yn cipio tair am 39 ac roedd angen 21 oddi ar 30 o belenni ar Forgannwg cyn i’r bowlwyr eu rhoi nhw o dan bwysau.
Ar ôl sgorio 41 gyda’r bat, y troellwr llaw chwith ifanc Lewis Goldsworth fowliodd y belawd olaf gan ildio dim ond wyth rhediad gyda Morgannwg yn gorffen ar 179 am naw gyda Michael Hogan wrth y llain yn ceisio ychwanegu at ei berfformiad wrth gipio pedair wiced am 33 – ei ffigurau undydd gorau erioed – yn gynharach yn y noson.