Mae’r Cymro 31 oed Sam Vokes wedi ymuno â Wycombe Wanderers ar ôl llofnodi cytundeb blwyddyn.
Mae’n gostwng o’r Bencampwriaeth i’r Adran Gyntaf ar ôl gadael Stoke.
Yn ôl Gareth Ainsworth, rheolwr Wycombe, fe fu’r clwb yn ei gwrso drwy gydol yr haf.
“Fe gymerodd gryn dipyn o amser, llawer o alwadau ffôn, llawer o gyfarfodydd yn y nos, ond fe gyrhaeddon ni yma ac mae’n gaffaeliad gwych i’r clwb,” meddai’r rheolwr.
“Mae profiad Sam yn siarad drosto’i hun, gyda 64 o gapiau dros Gymru, sgorio yn rownd wyth olaf Pencampwriaeth Ewrop, ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair dair gwaith, a sgorio llawer o goliau yn y ddwy adran uchaf i Burnley dros gyfnod o saith mlynedd.
“Fe yw’r ffit perffaith i ni yn nhermau ei gymeriad a’r ffordd mae e’n chwarae, gan ddod â’n chwaraewyr ymosodol cyffrous allan i chwarae, sgorio digon o goliau ei hun, a fe yw’r dyn delfrydol i arwain y llinell i ni yn yr Adran Gyntaf y tymor hwn.”