Mae un arall o gefnogwyr tîm pêl-droed Lerpwl wedi marw o ganlyniad i drychineb Hillsborough – 32 o flynyddoedd wedi’r digwyddiad yn Sheffield.
Cafodd Andrew Devine, oedd yn 55 oed, anafiadau difrifol oedd wedi gweddnewid ei fywyd ar Ebrill 15, 1989 pan oedd e’n un o’r cefnogwyr a gafodd eu gwasgu yn y stadiwm.
Fe fu’n derbyn gofal gan ei deulu a meddygon dros y blynyddoedd, er mai chwe mis yn unig roedd disgwyl iddo fyw ar ôl y digwyddiad.
Mae Clwb Pêl-droed Lerpwl yn dweud eu bod nhw’n “drist iawn” o glywed am ei farwolaeth.
Yn 2016, daeth cwest i’r casgliad fod 96 o gefnogwyr wedi’u lladd yn anghyfreithlon.
Ond cafwyd David Duckenfield o Heddlu De Swydd Efrog yn ddieuog o ddynladdiad trwy esgeulustod ar ddiwedd ail achos llys yn 2019, ar ôl bod yn gyfrifol am blismona’r gêm gyn-derfynol yng Nghwpan FA Lloegr rhwng Lerpwl a Nottingham Forest.
Daeth yr achos yn erbyn y cyn-blismyn Donald Denton ac Alan Foster a’r cyn-gyfreithiwr Peter Metcalf i ben ar ôl i farnwr benderfynu nad oedd achos i’w gynnal wrth iddyn nhw wynebu cyhuddiadau o wyrdroi cwrs cyfiawnder.