Mae adroddiadau bod Russell Martin, rheolwr MK Dons, allan o’r ras i gael ei benodi’n rheolwr tîm pêl-dreod Abertawe.

Yr Albanwr Martin oedd y ffefryn ar ôl i reolwr arall, John Eustace, dynnu’n ôl yn ddiweddar.

Ond dydy’r Elyrch ddim yn barod i gefnu’n llwyr arno eto, ac mae Jody Morris, gynt o Derby a Chelsea, yn dal yn y ras hefyd.

Mae Russell Martin wedi creu argraff yn ystod ei flwyddyn a hanner wrth y llyw yn MK Dons, ac mae ei arddull o geisio cadw meddiant yn cyd-fynd â gweledigaeth hirdymor Abertawe.

Mae’r Elyrch yn chwilio am reolwr newydd yn dilyn ymadawiad y Cymro Steve Cooper ddechrau’r mis, a hynny ar ôl iddo fe arwain y tîm i ffeinal y gemau ail gyfle, flwyddyn ar ôl cyrraedd rownd gyn-derfynol y gemau ail gyfle.

Un o fawrion y clwb, Alan Tate, sydd wrth y llyw ar hyn o bryd wrth i’r tîm baratoi am dymor arall yn y Bencampwriaeth, ond maen nhw’n wynebu trafferthion ariannol ar ôl i daliadau parasiwt yr Uwch Gynghrair ddod i ben dair blynedd ar ôl iddyn nhw ostwng.