Mae Rassie Erasmus, prif hyfforddwr tîm rygbi De Affrica, wedi cynnig tynnu’n ôl o gyfres y Llewod wrth iddo gyhoeddi fideo yn amlinellu nifer o gwynion.

Fe fu’n siarad yn uniongyrchol â’r camera am 62 munud wrth godi nifer o bryderon am safon y dyfarnu gan Nic Berry yn y prawf cyntaf, ar ôl gwylio’i dîm yn colli o 22-17 yn Cape Town.

Mae e hefyd wedi amddiffyn ei hun ar ôl cael ei feirniadu am fod yn gludwr dŵr yn ystod y gêm, ac wedi cyhuddo’r dyfarnwr o drin y capten Siya Kolisi yn wahanol i Alun Wyn Jones, capten y Llewod.

“Roedd yna wahaniaeth enfawr rhwng pwy roedd e’n eu cymryd o ddifri a phwy nad oedd e’n eu cymryd o ddifri,” meddai, cyn annerch Undeb Rygbi De Affrica, gan awgrymu ei fod e’n barod i gamu o’r neilltu ar ôl cyhoeddi’r fideo heb yn wybod iddyn nhw.

Mae’n dweud ei fod e wedi cyhoeddi’r fideo fel unigolyn, ond mae e’n gwisgo cit swyddogol yn y fideo.

“Os ydych chi bobol yn gofyn nad ydw i’n cymryd rhan bellach yn y gemau prawf hyn, dim problem.

“Os ydych chi’n gofyn i fi beidio â bod yn gludwr dŵr, dim problem.

“Os ydych chi’n credu bod hyn yn mynd dros ben llestri ac na ddylai hyn fynd allan i’r cyfryngau, yna fe wnes i hyn yn bersonol, nid fel rhan o’r Springbok.

“A byddaf yn tynnu’n ôl o dîm rheoli’r Springbok.”

Mantais annheg?

Yn ôl Rassie Erasmus, cafodd y Llewod fantais cyn y prawf cyntaf gan fanteisio ar y cyfryngau i dynnu sylw at dacl anghyfreithlon gan Faf de Klerk yn y gêm rhwng y Llewod a De Affrica ‘A’ a beirniadu penodiad y dyfarnwr fideo Marius Jonker.

Mae Jonker wrth y llyw ar gyfer pob un o’r gemau prawf ar ôl i Brendon Pickerill o Seland Newydd orfod tynnu’n ôl oherwydd cyfyngiadau teithio Covid-19.

“Rydyn ni’n teimlo na chawson ni lwc o unrhyw beth oherwydd roedden ni’n dawel yr wytnos ddiwethaf ac roedden ni dros y cyfryngau i gyd,” meddai.

“Dw i ddim yn siŵr lle mae’r fideo yma’n mynd a dw i ddim yn siŵr lle ydw i [yn sefyll] ar ôl hyn na beth fydd goblygiadau hyn.

“Yn rhai o’r clipiau, mae’n bosib fy mod i’n swnio ychydig yn sarcastig a dw i’n ymddiheuro am hynny, mae’n debyg fod peth o’r rhwystredigaeth yw nad ydw i’n deall ar y lefel yma ein bod ni’n aros 12 mlynedd i chwarae gêm fel hon.

“Wnaethon ni jyst ddweud gadewch i ni beidio â chwyno yn y cyfryngau, a dyma ni ar fore Mawrth gydag awr o 26 o glipiau gan nad oedd Nic ar gael, a dim ond ar ddydd Llun maen nhw’n cynnal eu hadolygiad ar ddydd Llun ac mae gyda ni un sesiwn ymarfer ar ôl heddiw a dydyn ni ddim wedi cael unrhyw adborth.

“Mae’n lle negyddol i fod.

“Dw i’n credu y gallwn ni wneud dipyn gwell.”

Serch hynny, mae’n pwysleisio nad yw’n cyhuddo’r dyfarnwr o dwyllo.

Dydy World Rugby ddim wedi wneud sylw hyd yn hyn.