Bydd Bro360 yn cynnal sgwrs arbennig heno (30 Gorffennaf) gyda rhai o enwau mawr y campau yng Nghymru ac yn lleol er mwyn dathlu ailddyfodiad chwaraeon lleol.
Bwriad panel ‘Dilyn Dy Dîm’ yw trafod pwysigrwydd chwaraeon lleol, rhoi cyngor ar sylwebu, cyfweld a chreu cynnwys amlgyfrwng.
Fe fydd y sesiwn hefyd yn gyfle i ysbrydoli’r to nesaf o ohebwyr chwaraeon lleol, a’u hannog i ddilyn esiampl pobol ifanc fel Begw Elain sy’n creu fideos o goliau ei chlwb lleol bob wythnos a’u rhannu ar DyffrynNantlle360.
Bydd y sylwebydd Nic Parry; y pyndit Gwennan Harris; y cyflwynydd Owain Gwynedd; Swyddog Cyfryngau CPD Nantlle Vale, Begw Elain; a’r gŵr sy’n gyfrifol am flog seiclo Y Ddwy Olwyn, Gruffudd Emrys, yn ymuno â’r panel.
Y rhedwr Owain Schiavone fydd yn hwyluso’r cyfan.
Cyfle i ddathlu
Gyda’r Gemau Olympaidd yn eu hanterth draw yn Tokyo a’r Llewod yn wynebu gêm enfawr yn Ne Affrica fory (31 Gorffennaf), does dim posib osgoi’r sylw sy’n cael eu rhoi i ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf y byd.
Ond fory hefyd, bydd cynghreiriau ‘ardal’ FA Cymru yn cychwyn – y gemau pêl-droed cystadleuol cyntaf i glybiau lleol ers blwyddyn a hanner.
Mae’r awydd i wylio clybiau lleol wedi cynyddu ers y pandemig, wrth i 700 wylio Clwb Pêl-droed Llanelli ddydd Sadwrn, a 170 wylio’r Felinheli yn erbyn Waunfawr – gallch ddarllen mwy am hynny gan golofnydd chwaraeon Golwg, Phil Stead, isod.
❝ Pêl-droed lleol yn denu cannoedd
Gyda’r gefnogaeth yn amlwg, mae’r sesiwn gan Bro360 yn gyfle i ddathlu fod chwaraeon lleol yn ailddechrau.
‘Rhoi clwb lleol ar y map’
“Mae pob Gareth Bale, Alun Wyn Jones a Geraint Thomas yn cychwyn yn rhywle – a’n clybiau lleol ydy’r llefydd hynny,” meddai Daniel Johnson, Ysgogydd Bro360 a threfnydd y sesiwn.
“Beth sy’n wych yw bod y cyfryngau digidol yn ein galluogi i roi mwy o sylw nag erioed i’r clybiau yma, ac i’r sêr lleol sy’n eu cynrychioli.
“Ein gobaith yw y bydd pobol sy’n dod i’r sesiwn yn gweld pa mor hawdd yw hi i greu a rhannu cynnwys yn y Gymraeg, a’u bod nhw’n mynd oddi yno’n ysu i roi eu clwb lleol neu eu hoff gamp ar y map.”
- Dilyn Dy Dîm, nos Wener 30 Gorffennaf, 7yh ar Zoom. Gellir cofrestru o flaen llaw ar wefan Bro360 neu drwy’r ddolen Zoom.