Mae’r Seintiau Newydd drwodd i’r drydedd rownd ragbrofol yng Nghyngres Ewropa ar ôl sicrhau eu buddugoliaeth fwyaf erioed yn Ewrop dros ddau gymal yn erbyn Kanuo Zalagiris.

Roedd gan y Seintiau fantais o 5-0 ar ôl y cymal cyntaf yn Lithuania, ac roedden nhw 3-0 ar y blaen ar ôl 25 munud 3-0 yn yr ail gymal, gyda goliau gan Danny Redmond, Louis Robles a Declan McManus.

Sgoriodd Leo Smith ar 69 munud, gan gadw ei record o sgorio ym mhob gêm yn Ewrop hyd yn hyn y tymor hwn, cyn i Danny Davies ychwanegu pumed pum munud yn ddiweddarach.

Mae Leo Smith bellach wedi sgorio chwech gôl mewn chwech gêm Ewropeaidd.

Sgoriodd Michael Thuique gôl gysur hwyr i’r ymwelwyr, gan olygu mai 10-1 i’r Seintiau oedd hi ar ôl dau gymal.

Bydd tîm Anthony Limbrick yn wynebu Viktoria Plzen o’r Weriniaeth Tsiec yn y drydedd rownd ragbrofol ar ôl iddynt guro Dinamo Brest o Felarus 4-2 dros ddau gymal.

Dywedodd prif hyfforddwr y Seintiau Newydd Anthony Limbrick: “Roeddwn i’n meddwl ein bod ni’n ddidrugaredd yn nhraean olaf yn y gêm hon ag oedden ni yn y gêm gyntaf, sy’n beth da.

“Rwy’n dal i feddwl bod tipyn mwy i ddod oddi wrthym ni, mae’r bechgyn yn siomedig eu bod wedi ildio gôl ar y diwedd.

“Fe wnaethon nhw hyfforddi’n dda iawn yr wythnos hon a byddai wedi bod yn hawdd peidio â chymryd y gêm o ddifrif, ond gallech ddweud ein bod eisiau ennill gartref.”

Siom i Cei Connah

Roedd hi’n ymdrech arwrol gan Gei Connah yn erbyn Prishtina, oedd yn ceisio gwrthdroi sgôr o 4-1 ar ôl y cymal cyntaf yn Kosovo.

Dechreuodd y tîm cartref – oedd yn chwarae yng Nghoedlan y Parc yn Aberystwyth – yn wych, gyda Jamie Insall yn sgorio ar ôl tri munud i roi gobaith i’r Nomads.

Ond arweiniodd dau gamgymeriad amddiffynnol at ddwy gôl gan Endrit Krasniqi, gan ymestyn mantais Prishtina.

Sgoriodd y capten George Horan i ddod a’r Nomads yn gyfartal ar y noson cyn i Jamie Insall sgorio ei ail i’w rhoi ar y blaen ac o fewn dwy gôl o ddiddymu mantais Prishtina.

Daeth cic o’r smotyn llwyddiannus gan Callum Morris â Cei Connah o fewn trwch blewyn i fynd â’r gêm i amser ychwanegol, ond boddi wrth y lan wnaeth tîm Andy Morrison yn y diwedd.

Bydd Prishtina nawr yn herio pencampwyr Norwy, FK Bodo/Glimt yn y drydedd rownd ragbrofol.

Dywedodd rheolwr Nomads Cei Connah, Andy Morrison: “Roedd yn rhaid i ni ddechrau’n dda ac fe wnaethon ni, dylai fod wedi bod yn 2-0 ar y blaen, ac yna rhoddon ni ddwy gôl iddyn nhw o ddau gamgymeriad ac yna ei gwneud hi’n anodd i ni’n hunain.

“Ond roedden ni’n credu ac roedden ni’n dal i fynd amdani ac mae’n berfformiad anhygoel ac rwy’n hynod falch o’r chwaraewyr.”