Mae Gleision Caerdydd wedi cadarnhau bod Cory Hill yn gadael y rhanbarth cyn y tymor nesaf.

Y gred yw bod Hill eisiau symud i chwarae dramor ar ôl iddo wrthod cytundeb newydd gydag Undeb Rygbi Cymru a fyddai wedi golygu llai o gyflog.

Daeth y chwaraewr ail reng drwy’r academi yn y rhanbarth cyn ymuno â chlwb Moseley, ac yna’r Dreigiau yn 2013.

Ailymunodd â’r Gleision cyn tymor 2020-21, gan chwarae 11 gwaith y tymor hwnnw.

“Dymuno’n dda i Dai â’r tîm’

Mae Hill wedi diolch i’r rhanbarth, gan ddweud y bydd o’n eu gwylio “o bell” yn y blynyddoedd nesaf.

“Fyswn i’n hoffi diolch i’r Gleision, eu cefnogwyr, Dai Young a fy holl gyd-chwaraewyr am eu cefnogaeth yn ystod y tymor diwethaf,” meddai Hill.

“Roedd yn dymor annisgwyl gydag effeithiau Covid yn golygu nad oedd torfeydd i’n gwylio ond rwy’n siŵr bod y clwb mewn dwylo da i gystadlu gartref ac yn Ewrop.

“Fydda i’n sicr yn gwylio Gleision Caerdydd yn eiddgar o bell dros y tymhorau nesaf ac yn dymuno’n dda i Dai a’r tîm.”

Dim drwgdeimlad

Dywedodd Cyfarwyddwr Rygbi Caerdydd bod ymadawiad Cory yn “siomedig.”

“Mae’n amlwg yn siomedig i golli chwaraewr o safon Cory, ond rydyn ni’n deall ei benderfyniad ac mae’n ymadael ar dermau da,” meddai Dai Young.

“Rydyn ni’n gobeithio’r gorau i Cory a’i deulu yn y dyfodol.”