Mae’r Llewod Prydeinig a Gwyddelig yn wynebu gêm enfawr yn erbyn pencampwyr y byd De Affrica yfory (dydd Sadwrn, 31 Awst), gyda’r gic gyntaf am bump o’r gloch.

Bydd modd gwylio’r gêm ar Sky Sports a bydd uchafbwyntiau ar S4C am 10.30 y nos.

Enillodd y Llewod y prawf cyntaf 22-17, ond mae’r Prif Hyfforddwr Warren Gatland yn disgwyl i’r Bociaid “daflu popeth aton ni” yn yr ail brawf.

Mae tri newid yn nhîm rygbi’r Llewod ar gyfer yr ail brawf yn erbyn De Affrica yn Cape Town, gyda Conor Murray, Chris Harris a Mako Vunipola yn dod i mewn i’r pymtheg fydd yn dechrau’r gêm.

Daw’r Gwyddel Murray i mewn yn lle’r Albanwr Ali Price yn safle’r mewnwr, gyda Price wedi’i enwi ymhlith yr eilyddion.

Fe wnaeth Vunipola argraff o’r fainc yn y rheng flaen yn y prawf cyntaf, ac mae Rory Sutherland felly ar y fainc yn dilyn problemau yn y chwarae gosod ac yn sgil yr anaf i ysgwydd Wyn Jones.

Daw Harris i mewn i’r garfan yn lle Elliot Daly yn y canol, ar mae ôl methu â chyrraedd y 23 ar gyfer y prawf cyntaf.

Does dim lle i Liam Williams ar y fainc, gyda Daly yn cynnig opsiynau gwahanol gan ei fod e’n gallu chwarae mewn sawl safle ymhlith yr olwyr.

Hefyd ar y fainc mae’r wythwr o Gymru, Taulupe Faletau, sy’n cymryd lle’r Albanwr Hamish Watson.

Mae’r Cymro, Dan Biggar, hefyd wedi cadw ei le.

“Rydyn ni’n gwybod y bydd y Springboks yn brifo a byddan nhw’n taflu popeth aton ni ddydd Sadwrn, ond dw i’n credu bod digon i ddod gennym ni hefyd,” meddai Warren Gatland.

“Rydyn ni’n teimlo y gallwn ni godi i lefel arall o le’r oedden ni yn y prawf cyntaf a byddwn i’n disgwyl i ni wella.”

Y tîm

S Hogg (Yr Alban), A Watson (Lloegr), C Harris (Yr Alban), R Henshaw (Iwerddon), D van der Merwe (Yr Alban), D Biggar (Cymru), C Murray (Iwerddon); M Vunipola (Lloegr), L Cowan-Dickie (Lloegr), T Furlong (Iwerddon), M Itoje (Lloegr), A W Jones (Cymru, capten), C Lawes (Lloegr), T Curry (Lloegr), J Conan (Iwerddon).

Eilyddion

K Owens (Cymru), R Sutherland (Yr Alban), K Sinckler (Lloegr), T Beirne (Iwerddon), T Faletau (Cymru), A Price (Yr Alban), O Farrell (Lloegr), E Daly (Lloegr).