Mae dros 90% o gefnogwyr pêl-droed benywaidd wedi gweld camdriniaeth rywiaethol tuag at fenywod eraill ar-lein, yn ôl arolwg newydd.

Roedd data gan Her Game Too, grŵp sy’n ymgyrchu i greu amgylchedd mwy croesawgar a pharchus yn y byd pêl-droed, yn dangos lefelau uchel iawn o gasineb at ferched.

Fe wnaeth y grŵp holi 371 o gefnogwyr pêl-droed benywaidd, gyda 91.9% yn dweud eu bod wedi gweld sylwadau sarhaus wedi eu targedu at ferched ar-lein, tra bod 63.1% yn dweud eu bod wedi dioddef sylwadau sarhaus eu hunain.

Mae’r arolwg hefyd yn dangos bod 58.4% o fenywod wedi dioddef o gamdriniaeth rywiaethol wyneb yn wyneb, un ai mewn cae pêl-droed neu’n gwylio pêl-droed mewn tafarn.

Ystadegau yn ‘arswydus’

Mae Niall Couper o grŵp Fair Game wedi dweud bod angen gweithredu mwy cadarnhaol nag sydd yn digwydd ar hyn o bryd.

Mae Fair Game, ynghyd â Her Game Too, yn gwthio am lywodraethu mwy cynaliadwy mewn pêl-droed.

“Mae’r ystadegau diweddar yn arswydus,” meddai.

“Does dim lle i ragfarn rywiaethol yn ein gêm yn genedlaethol.

“Rydyn ni angen rhoi sylw ar unwaith i hyn felly dyna pam ein bod ni’n galw am safonau cydraddoldeb mwy cadarn.

“Mae’r safonau presennol yn dda mewn egwyddor, ond mae’n rhaid i ni symud ymlaen o’r diwylliant ticio bocsys hwn sydd wedi hen fethu – mae’n rhaid i ni gael canlyniadau.

“Mae’r gêm angen dechrau sylwi ar y drwg yn y caws.

“Mae angen datrysiadau tymor hir ymarferol sy’n cadw rhagfarn rywiaethol yn y gorffennol.”