Mae gêm gymhwysol Cwpan y Byd Cymru gyda Belarws wedi cael ei symud i leoliad niwtral yn Rwsia.

Bydd gêm Grŵp E a drefnwyd ar gyfer dydd Sul, Medi 5 yn cael ei chynnal yn y Stadiwm Canolog yn Kazan y tu ôl i ddrysau caeedig.

Ni all timau o’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd fynd i Belarws mewn awyren oherwydd sancsiynau yn erbyn eu llywodraeth.

Roedd y sancsiynau’n dilyn arestio’r newyddiadurwr Roman Protasevich ym mis Mai.

Roedd Protasevich, 26, ar daith mewn awyren Ryan Air o Wlad Groeg i Lithwania a gafodd ei dargyfeirio i brifddinas Belarws, Minsk, wedi bygythiad bom ffug.

Wedi i’r awyren lanio, cafodd ef a’i gariad Sofia Sapega eu harestio.

Arteithio

Mae nhw yn cael eu cadw yn erbyn eu hewyllys gan lywodraeth Alexander Lukashenko – y mae llawer yn credu iddo ennill etholiad drwy ddulliau annheg.

Mae teulu Protasevich yn ofni fod eu mab wedi cael ei arteithio a’i orfodi i gyfaddef ei fod yn euog o gyflawni troseddau difrifol yn erbyn yr awdurdodau yn Belawrs.

Mewn un fideo fe dorrodd Protasevich lawr i lefain a chodi ei arddyrnau at ei wyneb i ddangos briwiau garw.

Mae UEFA wedi hysbysu Cymdeithas Bêl-droed Cymru y bydd y gêm felly yn cael ei symud ac yn cael ei chynnal mewn lleoliad “niwtral.”

Bydd y gêm nawr yn cael ei chwarae yn Stadiwm Canolog Kazan, Rwsia gydag UEFA hefyd yn cadarnhau, gan fod y gêm yn cael ei chwarae ar dir niwtral, fod yn rhaid iddi ddigwydd y tu ôl i ddrysau caeedig.

Fe gurodd Cymru Belarws 1-0 pan gyfarfu’r ddwy wlad y tro diwethaf mewn gêm gyfeillgar fis Medi 2019.

Chwipio

Ond fe chwipodd Gwlad Belg Belarws o 8-0 pan chwaraeon nhw fis Mawrth.

Bydd Cymru yn wynebu dipyn o deithio eto gan eu bod yn croesawu Estonia i Stadiwm Dinas Caerdydd dri diwrnod yn ddiweddarach ar ddydd Mercher, Medi 8.

Ond cyn hynny, bydd gan Gymru gem gyfeillgar i ffwrdd yn erbyn y Ffindir nos Fercher, Medi 1 am 6yh yn yr Olympic Stadium, Helsink.

Grŵp E

Mae Grŵp E UEFA yn un o’r 10 grŵp UEFA yn nhwrnamaint cymhwyster Cwpan y Byd i benderfynu pa dimau fydd yn gymwys ar gyfer twrnament rowndiau terfynol Cwpan y Byd FIFA 2022 yn Qatar.

Mae Grŵp E yn cynnwys pum tîm: Belarws, Gwlad Belg, y Weriniaeth Tsiec, Estonia a Chymru.

Mae’r tîmau’n chwarae yn erbyn ei gilydd gartref ac oddi cartref.

Bydd enillydd y grŵp yn gymwys yn uniongyrchol ar gyfer rowndiau terfynol Cwpan y Byd, tra bydd yr ail yn symud ymlaen i’r ail rownd (gêmau ail-chwarae).

Rhestr o’r gêmau rhagbrofol Cwpan y Byd sy’n weddill i Gymru:

Belarws v Cymru (Medi 5, cic gyntaf 2yp)

Cymru v Estonia (Medi 8, Stadiwm Dinas Caerdydd, 7:45yh)

Gweriniaeth Tsiec v Cymru (Hydref 8, 7:45yh)

Estonia v Cymru (Hydref 11, 7:45yh)

Cymru v Belarws (Tachwedd 13, 7:45yh)

Cymru v Gwlad Belg (Tachwedd 16, 7:45yh)