Mae’r pêl-droed wedi ailgychwyn yn gynnar yng Nghymru gyda chlybiau ar y lefelau is na’r Uwchgynghrair yn dechrau chwarae gemau cwpan a chynghrair ym mis Gorffennaf. Roedd fy sylw ar y canlyniadau a’r newidiadau ymysg y carfannau i ddechrau. Ond yr wythnos yma, gyda rhwystrau mynychu wedi eu codi, roedden ni yn dechrau clywed faint o bobl oedd yn gwylio’r gemau. Ac mae ffigyrau rhai gemau wedi bod yn wefreiddiol.