Fel rhywun Cymraeg sy’n byw yn Lloegr, fi’n cerdded o gwmpas pob dydd efo side-eye fach ar y Saeson. Do, dw i wedi byw yma ers 2007, wedi gweithio efo rhai, wedi syrthio mewn cariad efo eraill. Ond mae yna ran ohona i fydd wastad yn cymryd pob peth mae rhai ohonyn nhw’n ddweud efo pinsiaid o halen – ac mae blydi Freedom Day yn esiampl anhygoel o hynna.