Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi mai’r Gwyddel Noel Mooney yw’r Prif Weithredwr newydd.

Bydd yn cychwyn yn ei swydd newydd ar Awst 30.

Mi fydd yn ymuno o UEFA lle mae e’n Bennaeth Datblygu Strategol ac yn gweithio gyda phob un o’r 55 ffederasiwn ac yn eu cynorthwyo ar bob agwedd o’u datblygiad.

Yn wreiddiol o Cappamore, Limerick yng Ngweriniaeth Iwerddon, mae’n gyn-golwr i glybiau pêl-droed Limerick, Cork a Shamrock Rovers.

Fe ymunodd â Chymdeithas Bêl-droed y Weriniaeth yn 2006 ac roedd yn gyfrifol am farchnata Cynghrair Iwerddon.

Ymunodd â UEFA yn 2011 ac yn 2019 bu’n arwain Cymdeithas Bêl-droed Iwerddon am gyfnod dros dro.

“Pennod newydd”

Dywed Noel Mooney ei fod e am i Gymdeithas Bêl-droed Cymru “ddatblygu i fod yn un o’r goreuon yn y byd”.

“Yn y bennod newydd yma yn hanes pêl droed Cymru, mi fyddwn yn tyfu ac yn esblygu’r gêm gan ddod yn fwy llwyddiannus a phoblogaidd,” meddai.

“Edrychaf ymlaen yn fawr i weithio gyda phawb er mwyn cyrraedd ein gwir botensial.

“Dros y ddeng mlynedd ddiwethaf gyda UEFA, mi rydw i wedi gweithio gyda phobol arbennig iawn er mwyn datblygu’r gêm dros Ewrop.

“O hyn ymlaen, mi fydda i’n canolbwyntio ar Gymru gan sicrhau bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn datblygu i fod yn un o’r goreuon yn y byd; yn gryf yn lleol, ac ym mhob pentref a thref ar draws y wlad.”

“Llwyddiant a datblygiad”

Mae Kieran O’ Connor, Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, wedi croesawu’r penodiad.

“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gweld Noel fel y person cywir i arwain y gymdeithas i mewn i gyfnod newydd o lwyddiant a datblygiad,” meddai.

“Mae ganddo brofiad helaeth o weithio gyda chymdeithasau pêl-droed ledled Ewrop yn ystod y degawd diwethaf.

“Fel cymdeithas, rydym wrth ein bodd ei fod yn barod i ganolbwyntio ei egni nawr ar Gymru.”