Mae Alun Wyn Jones, y Cymro sy’n gapten ar y Llewod, yn holliach ar gyfer y prawf cyntaf yn erbyn De Affrica ddydd Sadwrn (Gorffennaf 24), yn ôl Steve Tandy.
Cadarnhaodd yr hyfforddwr amddiffyn hefyd fod y tîm hyfforddi wedi penderfynu ar “y mwyafrif” o’r tîm fydd yn dechrau’r gêm.
Chwaraeodd Alun Wyn Jones, wnaeth ddatgymalu ei ysgwydd mewn gêm yn erbyn Japan ar Fehefin 26, am hanner awr yn erbyn y Stormers ddydd Sadwrn diwethaf (Gorffennaf 17), wrth i’r Llewod ennill o 49-3.
Pan gafodd ei holi a yw Alun Wyn Jones wedi chwarae digon o rygbi i chwarae yn y Prawf cyntaf, dywedodd Steve Tandy ei fod o.
“Yn hanesyddol, mae Al yn gwneud pethau eithaf arbennig. Mae’n ffit, mae’n barod i fynd,” meddai.
“Mae’n cadw ei hun mewn cyflwr gwych, felly fydd dim problemau.
“Mae ganddo brofiad anghredadwy. Mae’r ffordd y mae o’n arwain yn rhagorol hefyd.
“Bydd e’n iawn.”
Cwrso 10fed cap i’r Llewod
Pe bai Alun Wyn Jones yn cael ei ddewis ar gyfer gêm dydd Sadwrn, byddai’n ennill ei ddegfed cap dros y Llewod, ar ôl chwarae ar deithiau 2009, 2013 a 2017.
Ond mae’r gŵr 35 oed yn wynebu cystadleuaeth gan y Cymro Adam Beard, y Saeson Maro Itoje, Jonny Hill a Courtney Lawes, yn ogystal â’r Gwyddelod Iain Henderson a Tadhg Beirne.
Dywed Steve Tandy y byddai cyrraedd deg cap prawf dros y Llewod yn “gyflawniad anghredadwy”.
“Dw i ddim yn meddwl y gallai 99% o bobol fod wedi dod yn ôl o’r anaf hwnnw yn erbyn Siapan, efallai y bydden nhw wedi rhoi’r ffidil yn y to,” meddai.
“Nid yw’n rhoi’r ffidil yn y to, dw i ddim wedi gweld neb mor broffesiynol ag ef.”