Bydd prif hyfforddwr tîm rygbi menywod Cymru’n gadael ei rôl gydag Undeb Rygbi Cymru ar unwaith.
Dywedodd Undeb Rygbi Cymru a Warren Abrahams fod y penderfyniad yn un gafodd ei wneud ar y cyd.
Cafodd Abrahams ei benodi lai na naw mis yn ôl ym mis Tachwedd 2020, gan arwain Cymru drwy bencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Daeth y tîm yn olaf, gan golli pob un o’u tair gêm yn erbyn Ffrainc, Iwerddon, a’r Alban.
Mae’r hyfforddwr yn gadael er mwyn mynd ar drywydd mentrau eraill, ac yn gadael gyda bendith Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Steve Phillips.
‘Sefydlogrwydd’
“Hoffwn ddiolch i Warren am bopeth y mae e wedi’i wneud i garfan genedlaethol Merched Cymru yn yr adegau anodd hyn, ac rydyn ni’n dymuno’n dda iddo at y dyfodol,” meddai Steve Phillips.
“Mae gêm ryngwladol y Merched yn faes hanfodol i Undeb Rygbi Cymru, ac un sy’n datblygu; byddwn ni nawr yn symud at ddod o hyd i rywun i gymryd lle Warren er mwyn sicrhau sefydlogrwydd hanfodol i’r garfan cyn Cwpan y Byd yn 2022.”
“Dw i’n ddiolchgar i Undeb Rygbi Cymru am y cyfle hwn, a hoffwn ddiolch i dîm rheoli’r Merched a’r chwaraewyr,” meddai Warren Abrahams.
“Dw i wedi mwynhau gweithio gyda rhaglen y Merched, a dw i’n dymuno’n dda i’r rhai fydd ynghlwm â hi yn y dyfodol.”