Mae Wayne Hennessey, gôl geidwad Cymru, wedi ymuno â Burnley ar gytundeb dwy flynedd.

Daw hyn ar ôl i’r gŵr 34 oed adael Crystal Palace – lle bu’n chwarae am saith blynedd – yn gynharach y mis hwn.

Collodd Hennessey – sydd â 96 o gapiau dros ei wlad – ei le fel dewis cyntaf Cymru i Danny Ward yn ystod twrnament Ewro 2020.

Dywedodd Burnley ar eu gwefan swyddogol: “Mae’r Clarets wedi ychwanegu chwaraewr arall sydd â phrofiad yn yr Uwch Gynghrair at eu carfan gyda’r gôl-geidwad sydd â’r nifer mwyaf o gapiau rhyngwladol i Gymru, Wayne Hennessey.

“Mae Hennessey yn ymuno â Burnley am ddim ar ôl iddo adael Crystal Palace ac mae wedi cytuno ar gytundeb dwy flynedd – gydag opsiwn o flwyddyn arall – yn Turf Moor.”

Bydd Hennessey – sydd wedi gwneud 181 o ymddangosiaau yn Uwch Gynghrair Lloegr – yn cystadlu â Nick Pope am safle’r gôl geidwad yn Burnley.