Ar ôl oedi mawr yn sgil Covid-19, fe fydd y gystadleuaeth griced ddinesig newydd, Can Pelen, yn dechrau fory (dydd Mercher, Gorffennaf 21).
Roedd disgwyl i’r gystadleuaeth, sy’n cyflwyno fformat newydd sbon i gefnogwyr, gael ei chynnal y llynedd ond cafodd ei chanslo oherwydd Covid-19.
Y Tân Cymreig yw’r tîm sy’n cynrychioli dinas Caerdydd – ond does yna’r un cricedwr o Gaerdydd yn y gystadleuaeth. Dim ond un Cymro – y gogleddwr David Lloyd – sydd yn y tîm.
Un o wyth tîm yn y gystadleuaeth, gyda’r timau eraill yn cynrychioli Llundain (Oval Invincibles a London Spirit), Nottingham (Trent Rockets), Southampton (Southern Brave), Leeds (Northern Superchargers), Manceinion (Manchester Originals) a Birmingham (Birmingham Phoenix).
Am y tro cytaf, fe fydd gemau’r dynion a’r menywod yn cael eu cynnal ochr yn ochr, gan roi llwyfan cytbwys i’r ddau ryw – ond y menywod sy’n agor y gystadleuaeth, wrth i’r Invincibles herio’r Originals.
Diben y gystadleuaeth, yn ôl Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB), yw denu cynulleidfa newydd i’r byd criced, yn enwedig menywod a phlant (er bod yr ieithwedd hyd yn hyn wedi eu heithrio nhw wrth awgrymu nad ydyn nhw’n gallu canolbwyntio ar y gêm hir!).
Ond y cwestiwn mawr ar wefusau’r cefnogwyr yw…
Pam fod angen fformat newydd sbon yn hytrach nag ailwampio’r gystadleuaeth ugain pelawd, y Vitality Blast?
Prin yw’r atebion sydd wedi’u cynnig i’r cwestiwn hwnnw hyd yn hyn… (fel lot fawr o gwestiynau eraill!)
Ond mae’r cefnogwyr traddodiadol yn teimlo bod digon o newid wedi bod i’r byd criced dros y blynyddoedd diwethaf fel nad oes angen fformat arall eto fyth.
Mae’r ECB, mae’n siŵr, yn teimlo y gallai’r gystadleuaeth ddenu torfeydd sylweddol fel sydd gan yr IPL yn India neu’r Big Bash League yn Awstralia, ond rhaid cofio nad oes yna’r un gefnogaeth i griced yng ngwledydd Prydain ar hyn o bryd.
Y gobaith arall efallai, wrth fynd i’r dinasoedd, yw denu cynulleidfaoedd o gefndiroedd du ac Asiaidd – cynulleidfaoedd sydd eisoes yn ddilynwyr criced brwd.
Sut mae’r fformat yn wahanol?
Yr un yw’r hanfod yn y bôn – y sgôr uchaf sy’n ennill y gêm!
Ond 100 pelen sy’n cael eu bowlio yn lle 120 – mae’n debyg oherwydd fod rhai pobol yn teimlo bod eistedd i wylio 120 o belenni – neu 240 mewn noson – yn ormod o faich!
Yn hytrach na chyfri i fyny, bydd angen cyfri i lawr o 100 – a does dim sôn am belawdau ond yn hytrach, deg set o ddeg pelen, ond bydd bowlwyr yn bowlio o’r naill ben neu’r llall fel criced traddodiadol. Syml? Hyd yn hyn…
Ond yn wahanol i’r belawd draddodiadol, bydd y capten yn cael dewis a fydd bowliwr penodol yn bowlio deg pelen yn olynol neu ddim ond pump – ar sail safon y bowlio yn y pum pelen gyntaf.
A dyna’r peth arall – bydd ‘batiwr’ a ‘bowliwr’ yn cael eu rhoi o’r neilltu rhag i fenywod gael eu heithrio o’r fath dermau – ‘batydd’ neu ‘fowlydd’ yw’r termau Cymraeg, am wn i – fel dywedodd sylwebydd rywdro, ar bysgodyn ac nid ar gae criced mae “batter” i fod!
Rhaid canmol yr awdurdodau, wrth gwrs, am fentro gwneud y gêm yn fwy cyraeddadwy i bawb, ond mae’r cefnogwyr traddodiadol, ar y cyfan, yn gweld bod hwn, efallai, yn gam yn rhy bell.
Yr hyn sy’n bwysig, wrth gwrs, yw fod gan y dynion a’r menywod lwyfan cyfartal wrth gynnal y gemau, sydd hefyd yn cael eu darlledu ar deledu daearol yn hytrach na’u gwthio i Sky Sports sydd ond ar gael i rai.
Peth digon diweddar yw termau Cymraeg ar gyfer y gêm ugain pelawd, mae Cymry Cymraeg ar y cyfan wedi dod i’w derbyn nhw a’u hadnabod nhw – ond gobeithio’ch bod chi’n hoffi dysgu geirfa newydd, bydd rhaid i ni hefyd!
Cyfle i wylio sêr mwya’r byd…?
Dim cweit!
Mae’r sefyllfa Covid-19 yn golygu na fydd rhai chwaraewyr tramor yn gallu teithio i Gymru neu Loegr – ac mae eraill wedi’u hanafu. Yn wir, mae hanner y rhai gafodd eu henwi ar ôl y ‘Drafft’ gwreiddiol bellach wedi tynnu’n ôl.
Mae arian mawr ar gael i chwarae yn y gystadleuaeth hon, felly ’dyw hi ddim yn fater o beidio â bod eisiau chwarae – mae’r trefnwyr wedi sicrhau hynny.
Ond dyma rai o’r chwaraewyr sydd wedi tynnu’n ôl am amryw o resymau:
- Kieron Pollard (Tân Cymreig)
- Jhye Richardson (Tân Cymreig)
- Glenn Maxwell (London Spirit)
- David Warner (Southern Brave)
- Marcus Stoinis (Southern Brave)
- Kane Williamson (Birmingham Phoenix)
- Shaheen Shah Afridi (Birmingham Phoenix)
- Nathan Coulter-Nile (Trent Rockets)
- Kagiso Rabada (Manchester Originals)
Llai deniadol nawr? Wel, ydy!
Bydd cyfle i wylio chwaraewyr rhyngwladol Lloegr am y ddwy gêm gyntaf – grêt! Ond wedyn? Byddan nhw ar ddyletswydd gyda’r tîm cenedlaethol a bydd y ‘B-listers’ yn cymryd drosodd.
Ydy’r tocynnau’n gwerthu’n dda?
Mae’r ffaith fod yr ECB wedi dechrau rhoi tocynnau am ddim fel rhan o becynnau aelodaeth a lletygarwch yn awgrymu i’r gwrthwyneb…
Mae rhyw 350,000 o docynnau wedi’u gwerthu, ond bydd torfeydd yn llai, i raddau gwahanol, am resymau pellter cymdeithasol a dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd i ba raddau fydd pobol yn teimlo’n gyfforddus yn dychwelyd i gemau ac eistedd mewn torfeydd eto.
Gwerthu 60% o’r holl docynnau yw nod yr ECB. Gawn ni weld am hynny!
Ac ar y mater hwnnw, pa mor ddiogel fydd y caeau i’r cefnogwyr a’r chwaraewyr?
Yr un mor ddiogel ag unrhyw le arall ar hyn o bryd, a bydd Gerddi Sophia yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru, tra bydd caeau Lloegr yn dilyn canllawiau Boris Johnson…
Mae byw mewn swigod yn beth cyffredin i gricedwyr erbyn hyn, ond mae’r ECB wedi bod yn awyddus i osgoi dychwelyd i’r fath sefyllfa eto, felly mae achosion o Covid-19 yn dod yn fwy cyffredin ymhlith chwaraewyr.
Ar ben y chwaraewyr sydd eisoes wedi tynnu’n ôl, bydd y trefnwyr yn gobeithio na fydd angen i neb arall dynnu’n ôl yn ystod y gystadleuaeth.
Y cwestiwn mwyaf, efallai, yw sut fydd y gêm newydd sbon hon yn denu cynulleidfa newydd at y gêm draddodiadol – yn enwedig pan fo’r gêm newydd hon yn llawn arloesi a thermau newydd nad oes ganddyn nhw ddim oll i’w wneud â chriced traddodiadol?
Wel, gewch chi geisio ateb y cwestiwn hwnnw…
I chi sydd ffansi bach o griced newydd, cyflym, clatsio… ond sy’n methu canolbwyntio am ugain pelawd mwynhewch y ‘criced 16.4 pelawd’ fel mae’n cael ei alw gan rai.
I chi’r puryddion, mwynhewch Gwpan 50 pelawd Royal London – mae mwy o Gymry (o drwch blewyn!) i’w gweld yn y gystadleuaeth honno.
Am bopeth arall sydd angen ei wybod, ewch i wefan y Tân Cymreig.