Mae hi’n noson fawr i Cei Connah a’r Seintiau Newydd yn Ewrop heno (nos Fawrth, Gorffennaf 20), gyda’r ddau dîm pêl-droed yn cystadlu yn ail rownd ragbrofol Cyngres Ewropa.

Mae Cei Connah yn chwarae oddi cartref yn erbyn FC Prishtina, pencampwyr Kosovo, gyda’r gic gyntaf am 5 o’r gloch.

Daw hyn ar ôl iddyn nhw ddisgyn o Gynghrair y Pencampwyr nos Fercher ddiwethaf (Gorffennaf 14).

Torcalon oedd hi i Cei Connah, gan golli o 1-0 (3-2 dros y ddau gymal) yn erbyn FC Alashkert, pencampwyr Armenia, a hynny ar ôl amser ychwanegol.

Roedd yn berfformiad arwrol gan bencampwyr Cymru, oedd â dim ond pedwar chwaraewr ar y fainc – a dau ohonyn nhw’n chwaraewyr o’r academi – yn dilyn profion Covid-19 positif ac anafiadau.

Mae yno hwb i Cei Connah wrth i’r capten, George Horan, ddychwelyd i’r garfan ar ôl methu’r ail gymal yn erbyn Alashkert.

Sgoriodd i unioni’r sgôr yn hwyr yn y cymal cyntaf ar ôl i Alashkert fynd 1-2 ar y blaen.

Mae Prishtina, ar y llaw arall, eisoes wedi chwarae tair rownd yn Ewrop y tymor hwn, gan guro Folgore (2-0) ac Inter d’Escaldes (2-0) yn rownd gyn-ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr.

Bydd modd ffrydio’r gêm yn erbyn FC Prishtina yn fyw.

A dyma’r tîm y mae Andy Morrison wedi ei ddewis ar gyfer y gêm.

Bydd yr ail gymal yn cael ei gynnal ar Goedlan y Parc, Aberystwyth nos Iau, Gorffennaf 29.

Y Seintiau Newydd yn “barod” i herio Kauno Žalgiris

Mae’r Seintiau Newydd wedi teithio i Lithwania i herio Kauno Žalgiris yn yr ail rownd ragbrofol, gyda’r gic gyntaf yn y gêm honno hefyd am 5 o’r gloch.

Daw hyn wedi iddyn nhw drechu Glentoran FC 2-0 (3-1 dros ddau gymal) yn y rownd gyntaf.

Leo Smith oedd arwr y rownd honno, gan sgorio dwy gôl mewn dwy gêm.

Mae’r chwaraewr canol cae bellach wedi sgorio pedair gôl mewn pedair gêm Ewropeaidd, a bydd yn gobeithio parhau â’r rhediad hwnnw heno.

Dyma’r trydydd tymor yn olynol i Žalgiris gyrraedd Ewrop, ac fe orffennodd FK Kauno Žalgiris yn drydydd, eu safle uchaf erioed yn A Lyga Lithwania, y tymor diwethaf.

Mae Anthony Limbrick, rheolwr y Seintiau, yn sicr yn disgwyl gêm anodd arall.

“Fe gawsom ni ddwy gêm anodd iawn dros ddau gymal yn erbyn Glentoran,” meddai mewn cyfweliad ar wefan y clwb.

“Rydan ni’n teimlo ein bod wedi cael digon o amser i baratoi, rydan ni wedi cael cyfle i edrych ar ein gwrthwynebwyr a rhoi cynllun at ei gilydd ar gyfer y gêm.

“Dyna rydan ni wedi bod yn ei wneud dros y dyddiau diwethaf.

“Mae hefyd wedi bod yn fater o sicrhau bod y chwaraewyr wedi paratoi’n gorfforol gan eu bod nhw wedi chwarae ddydd Iau, a rŵan yn chwarae ddydd Mawrth.

“Felly mae’n debyg mai dyna oedd y peth pwysicaf i’w wneud, ond unwaith wnaethon ni ffurfio cynllun ar gyfer hynny, roedden ni’n teimlo ein bod ni wedi cael digon o amser i baratoi ac rydan ni’n barod.”

Bydd modd gwylio’r gêm yn fyw drwy ddilyn y ddolen isod.

Bydd yr ail gymal yn cael ei gynnal ar Neuadd y Parc, Croesoswallt ar nos Iau, Gorffennaf 29 am 6.15yh.