Mae ymgyrch ar y gweill i godi arian i brynu dau ddiffibriliwr i glybiau criced Sully Centurions yn Sili a Barry Athletic yn y Barri yn dilyn marwolaeth cricedwr ar y cae dros y penwythnos.

Roedd Maqsood Anwar, oedd yn 44 oed, yn chwarae i’r Centurions yn erbyn Coed y Mynach ddydd Sadwrn (Gorffennaf 17) pan gafodd ei daro’n wael.

Yn ôl ei glwb, gallai diffibriliwr fod wedi achub ei fywyd ac mae galwadau erbyn hyn i sicrhau bod gan glybiau fynediad at ddiffibriliwr yn y dyfodol.

“Roedd e’n berson poblogaidd a chyfeillgar y bydd colled ar ei ôl,” meddai neges ar y dudalen Go Fund Me sydd wedi’i sefydlu er cof am Maqsood Anwar, oedd yn cael ei adnabod fel Max.

Roedd nod o £2,000 gan y dudalen, ond mae £2,225 eisoes wedi’i godi.

Mae disgwyl i’r Sully Centurions drafod diffibriliwr yn ystod cyfarfod heno (nos Lun, Gorffennaf 19).

Galw am ddiffibrilwyr ym mhob maes chwarae

Yn dilyn y digwyddiad, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am ddiffibrilwyr ym mhob maes chwarae yng Nghymru.

“Mae hyn, yn drist iawn, yn ein hatgoffa eto fod angen mwy o ddiffibrilwyr wedi’u gosod mewn caeau chwaraeon ledled Cymru i helpu i achub bywydau,” meddai Tom Giffard, llefarydd chwaraeon y blaid yn y Senedd.

“Dim ond mis diwethaf yn yr Ewros, fe welson ni ddiffibriliwr yn achub bywyd Christian Eriksen o Ddenmarc.

“Dyma’r cyfarpar pwysicaf y gall clwb chwaraeon amatur ei gael, ond dydyn nhw ddim yn rhad a bydd angen cefnogaeth ar ein clybiau gan y llywodraeth a sefydliadau eraill.

“Mae gwleidyddion ledled y Senedd yn unedig ar y mater hwn ond mae amser yn hollbwysig.

“Gorau po gyntaf y gallwn ni gael diffibrilwyr wedi’u gosod ledled caeau chwaraeon Cymru, a’r mwyaf o fywydau y gallwn ni eu hachub.”