Doedd sgôr parchus o 184 am bedair ddim yn ddigon i Forgannwg guro Hampshire mewn gêm ugain pelawd yn Southampton, wrth i’r tîm cartref gwrso’r nod yn llwyddiannus mewn 13 pelawd mewn ymgais i sicrhau bod eu cyfradd sgorio’n ddigonol i gyrraedd rownd wyth ola’r Vitality Blast.

Sgoriodd Morgannwg 184 am bedair yn eu hugain pelawd, gyda Marnus Labuschagne a David Lloyd yn taro hanner canred yr un.

Tarodd y Cymro David Lloyd 52 oddi ar 33 o belenni, gan gynnwys tri phedwar a phedwar chwech, wrth i’r Awstraliad Labuschagne sgorio 78 oddi ar 47 o belenni, gan gynnwys tri phedwar a chwech chwech.

Brad Wheal oedd seren Hampshire gyda’r bêl, wrth iddo fe gipio tair wiced am 39 yn ei bedair pelawd.

Ymateb rhyfeddol y Saeson

Ond wrth iddyn nhw fynd amdani, tarodd James Vince 39 oddi ar 21 o belenni, D’Arcy Short 69 oddi ar 30 o belenni – gan gynnwys saith pedwar a phum chwech – a Joe Weatherly 43 oddi ar 13 o belenni, gan gynnwys tri phedwar a phedwar chwech.

Cipiodd y troellwyr Andrew Salter a Marnus Labuschagne ddwy wiced yr un i Forgannwg.

Mae’r canlyniad yn gweld Hampshire yn codi i’r trydydd safle yn eu grŵp, a bydd yn rhaid iddyn nhw aros tan heno (nos Sul, Gorffennaf 18) i weld a ydyn nhw wedi gwneud digon i sicrhau eu lle ymhlith yr wyth olaf.