Mae’r Cymro Elfyn Evans wedi gorffen yn bumed yn rali Estonia.

Mae’r canlyniad yn ei adael e’n ail yn y bencampwriaeth o hyd, ond fe wnaeth e orffen y tu ôl i Sebastien Ogier, sydd ar frig y bencampwriaeth ac sydd wedi ymestyn ei fantais ymhellach.

Mae pum ras yn weddill yn y gystadleuaeth, ond fe fydd yn dalcen caled i’r Cymro wella ar ei ail safle.

Fe wnaeth Kalle Rovanperä, sy’n 20 oed, greu hanes drwy fod yr enillydd ieuengaf erioed yn un o ralïau Pencampwriaeth y Byd.

Enillodd e’r ras gyda bwlch o 59.9 eiliad gyda Craig Breen.

Roedd Thierry Neuville yn drydydd a Sebastien Ogier yn bedwerydd.

Ott Tänak enillodd y cymal cyffro a’r pum pwynt bonws.

Mae’r canlyniad yn golygu bod gan Elfyn Evans ddau bwynt ychwanegol.