Mae gobeithion Geraint Thomas, o ennill medal Olympaidd ar y ffordd yn Tokyo ar ben.

Cafodd y seiclwr o Gaerdydd ei ddal yng nghanol gwrthdrawiad ar ôl 70km o’r ras, cyn rhoi’r gorau iddi ryw 60km o’r llinell derfyn.

Roedd y ras 234km yn cael ei chynal yn Fuji International Speedway.

Glaniodd Thomas ar ei ochr dde ar ôl cwympo i’r llawr – yr un rhan o’i gorff wnaeth e ei daro mewn dau wrthdrawiad yn y Tour de France fis diwethaf.

Llwyddodd e i godi a dychwelyd i’r peloton, ond rhoddodd e’r gorau i’r ras yn gynnar.

Mae’n gobeithio cystadlu yn y ras yn erbyn y cloc ddydd Mercher (Gorffennaf 28).