Mae’r Llewod Prydeinig a Gwyddelig yn gandryll yn dilyn penderfyniad i benodi swyddog o Dde Affrica fel y TMO [Television Match Official] ar gyfer y gemau yn erbyn y Springboks.
Mae’r TMO yn gyfrifol am wirio penderfyniadau’r dyfarnwr ar sgrin deledu
Cafodd Marius Jonker ei ddewis ar ôl i Brendon Pickerill o Seland Newydd fethu teithio oherwydd pandemig y coronafeirws.
Mae’n debyg mai dim ond ddydd Mercher (21 Gorffennaf) y cafodd y Llewod wybod am y newid.
Mae’r Llewod yn teimlo y dylai cynlluniau wedi bod ar gyfer penodi TMO diduedd pe bai Brendon Pickerill ddim yn gallu teithio.
Credir bod prif hyfforddwr y Llewod, Warren Gatland, yn “gandryll” yn sgil y penderfyniad gyda ffynonellau’r Llewod yn dweud eu bod wedi’u “syfrdanu” i gael gwybod am y newid ar fyr rybudd.
Mae Rygbi’r Byd, oedd yn gyfrifol am benodi’r swyddogion ar gyfer y gyfres, yn dweud nad oedd cludo TMO arall i Dde Affrica yn bosibl oherwydd cyfyngiadau Covid-19.
Nic Berry, o Awstralia, fydd y dyfarnwr ar gyfer y gêm gyntaf yn Cape Town, gyda’r Ffrancwr Mathieu Raynal a Ben O’Keeffe o Seland Newydd yn ei gynorthwyo.
Bydd y cymal cyntaf yn cael ei chwarae yn Cape Town ddydd Sadwrn (24 Gorffennaf), gyda’r gic gyntaf am 5 o’r gloch.