Gyda’r Gemau Olympaidd yn dechrau heddiw (dydd Gwener, 23 Gorffennaf), mae Plaid Cymru yn galw am bwll nofio maint Olympaidd i ogledd Cymru.

Mae chwe aelod o dîm nofio Cymru wedi ennill lle yn y Gemau Olympaidd eleni, sy’n record newydd

Ac yn ôl Plaid Cymru, fe allai pwll maint Olympaidd yn y Gogledd greu mwy o gyfleoedd i nofwyr lleol.

Bydd y Gemau Olympaidd yn “dod â ni at ein gilydd yn ein balchder dros Gymru”, meddai llefarydd Plaid Cymru dros Chwaraeon, Heledd Fychan AoS.

Ond dywedodd bod angen cyfleusterau gwell yng ngogledd Cymru, gan nodi bod llawer o’r pyllau maint Olympaidd agosaf dros y ffin.

“Ni ellir gwadu bod gwylio athletwyr sy’n ein cynrychioli ar lwyfan chwaraeon y byd yn denu cymaint ohonom, nid dim ond y gwylwyr arferol, ac yn dod â ni at ein gilydd yn ein balchder dros Gymru,” meddai.

“Mae’n rhywbeth rydyn ni eisoes wedi profi cymaint ohono yn ystod ymgyrch yr Ewros eleni.

“Ond mae’r llwyddiant hwn yn codi’r cwestiwn – faint o nofwyr talentog o ogledd Cymru allai fod wedi bod yn cymryd rhan yn y gemau hyn pe bai pwll maint Olympaidd yn y Gogledd iddyn nhw hyfforddi ynddo?

“A allem fod yn edrych ar saith, wyth, naw neu fwy o nofwyr o Gymru ar y tîm?

“Fel y mae hi byddai’n rhaid i nofwyr yn y gogledd deithio i Fanceinion, Lerpwl, Abertawe neu Gaerdydd i hyfforddi, rhywbeth sy’n siŵr o’i gwneud hi’n anodd neu hyd yn oed yn amhosibl i athletwr ifanc ddilyn camp maen nhw’n rhagori ynddynt.

“Byddai sefydlu pwll maint Olympaidd yng ngogledd Cymru yn osgoi sefyllfa o’r fath – mae nofwyr yn y gogledd yn haeddu mynediad i gyfleusterau hyfforddi, ac yn haeddu’r cyfle i gyflawni eu potensial.”