Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud bod angen “gwneud mwy” i fynd i’r afael â hiliaeth mewn pêl-droed.
Daw hyn ar ôl i Gymdeithas Bêl-droed Lloegr gadarnhau ei fod yn ymchwilio i Glwb Pêl-droed Caerdydd ynghylch honiadau o ymddygiad hiliol.
Mae’r ymchwiliad yn dilyn erthygl yn The Athletic lle mae pêl-droediwr o dan 14 oed yn honni iddo gael ei gam-drin yn hiliol gan ei gyd-chwaraewyr wrth deithio i gêm oddi cartref.
Yn ôl yr erthygl, dywedodd y plentyn wrth ymchwilwyr y Gymdeithas ei fod wedi clywed synau mwnci a bod chwaraewyr wedi rwbio bananas ar ei ddillad.
Mae’r adroddiad yn dweud “clywodd ymchwilwyr yr FA hefyd honiad bod staff wedi methu ag ymateb mewn modd boddhaol a rhoi stop ar y cam-drin.
“Yn wir, mae yno honiadau bod yr aelod o staff wnaeth glywed am y cam-drin yn gyntaf wedi dweud wrth y dioddefwr am fwrw ymlaen a glanhau ei hun.”
Yn ôl yr erthygl, mae’r chwaraewr bellach wedi gadael yr academi.
“Erchyll”
“Roeddwn wedi dychryn i glywed am y cam-drin honedig yr oedd y pêl-droediwr ifanc hwn yn ei ddioddef, ac rwy’n falch o weld yr FA yn cymryd camau,” meddai Tom Giffard, Gweinidog Chwaraeon Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig..
“Mae’n bwysig bod clybiau nid yn unig yn hyfforddi’r chwaraewyr hyn i fod y gorau y gallant ar y cae, ond hefyd fel bodau dynol.
“Mae’n ddyletswydd ar academïau pêl-droed i ddarparu amgylchedd diogel i’r chwaraewyr ifanc hyn.”
Ychwanegodd Gweinidog Cydraddoldeb Cysgodol Ceidwadwyr Cymru, Altaf Hussain: “Mae digwyddiadau hiliol erchyll a gwarthus mewn chwaraeon yn digwydd yn amlach ac mae’n hanfodol ein bod yn gwneud mwy i fynd i’r afael â’r mater.
“Mae hiliaeth mewn chwaraeon – naill ai ar-lein neu’n bersonol – yn annerbyniol, ac mae angen i lywodraethau, cyrff chwaraeon a chlybiau gydweithio i’w ddileu am byth.”