Mae Alun Wyn Jones wedi dweud ei bod hi’n “arbennig iawn, iawn” cael chwarae’r gêm brawf gyntaf yn erbyn De Affrica.

Bydd y Cymro’n dechrau’r gêm yn yr ail reng ac yn capteinio’r Llewod ddydd Sadwrn, gan chwarae ei 10fed gêm brawf i’r Llewod.

Mae hynny’n cwblhau gwellhad rhyfeddol o anaf a gafodd yn erbyn Japan ddiwedd mis Mehefin.

Roedd Jones wedi ei yrru adref yn dilyn yr anaf hwnnw, ond wedi cyfnod yn ymarfer gyda thîm Cymru, fe alwodd Warren Gatland ei gapten yn ôl.

‘Golygu cymaint’ i fod yn ôl

“Y dyddiau cyntaf ar ôl yr anaf a chyrraedd adref, roeddwn i bron â bod ar y soffa cyn i’r bois hyd yn oed gyrraedd y maes awyr. Roedd hynny’n anodd,” meddai Jones.

“Y dydd Mawrth wedyn, gefais wybod bod siawns, ac roedd hynny’n anhygoel.

“I fod yma nawr yn gallu cymryd yr ergydion, a bod ymhlith y grŵp, mae’n golygu gymaint i fi.

“Roeddwn i’n ddigon ffodus i gael rhywfaint o amser ar y cae yn erbyn y Stormers ddydd Sadwrn a rhoi siawns i fi gael fy newis.

‘Popeth dw i wedi gweithio amdano’

“Eistedd yma nawr a bod yn rhan o’r tîm prawf – dyna dw i wedi gweithio amdano dros y ddwy i bedair blynedd diwethaf.

“Pan fyddwch chi’n gorffen cyfres neu daith, dydych chi ddim yn gwybod os ydych chi’n mynd i fod ar y daith nesaf.

“Mae eistedd yma nawr yn beth arbennig iawn, iawn, ond dydy e ddim ond yn un cam bach o beth fydd yn wythnos ddifyr iawn gobeithio.”

Tawelu pob amheuaeth

Mae wythwr y gêm brawf gyntaf, Jack Conan, wedi canmol ei gapten am y gwaith anhygoel a wnaeth i ddychwelyd o anaf.

“Mae’n dyst i ba mor broffesiynol ydy Alun, a pa mor dda mae’n gofalu amdano’i hun.

“Dw i’n credu bod unrhyw amheuon wedi eu tawelu yn llwyr pan ddaeth oddi ar y fainc yn erbyn y Stormers, gyda’r effaith a gafodd ar y gêm yn gorfforol.

“Felly does dim amheuaeth y bydd o’n chwarae fel hynny eto ar y penwythnos.

“Mae o’n ddyn sy’n arwain o’r blaen, gyda gweithredoedd a geiriau.

“A dw i’n credu bod pawb yn gyffrous i weld sut fydd o’n chwarae.”

Rhoi’r gwaith ar brawf

Bydd y Llewod yn herio De Affrica gyda thri Chymro yn y tîm, ac Alun Wyn Jones yn eu harwain nhw.

Mae Dan Biggar wedi ei ddewis fel maswr, a bydd Wyn Jones, a gafodd gais wythnos diwethaf yn erbyn De Affrica ‘A’, yn dechrau yn y rheng flaen.

Yn ogystal, mae tri Albanwr wedi eu henwi yn y pymtheg cyntaf mewn gêm brawf am y tro cyntaf ers 1997.

Bydd cic gyntaf y gêm yn Cape Town am bump o’r gloch brynhawn dydd Sadwrn.

Tîm y Llewod yn llawn:

Hogg, A Watson, Daly, Henshaw, Van Der Merwe; Biggar, Price; W Jones, Cowan-Dickie, Furlong, Itoje, AW Jones (capten), Lawes, Curry, Conan

Y fainc: Owens, Sutherland, Sinckler, Beirne, H Watson, Murray, Farrell, L Williams