Mae cyn-reolwr Cymru, Mike Smith, wedi marw yn 83 oed.

Ef oedd y rheolwr cyntaf gafodd Cymru oedd ddim yn Gymro, a threuliodd ddau gyfnod wrth y llyw.

Daeth yn rheolwr am y tro cyntaf ym 1974 ac arweiniodd Cymru i rownd gogynderfynol Pencampwriaeth Ewrop ym 1976.

Ar ôl rheoli Hull City a’r Aifft, cafodd ail gyfnod fel rheolwr Cymru rhwng 1994 a 1995.

Mike Smith hefyd oedd cyfarwyddwr hyfforddi Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Yn ei ymgyrch gymhwyso gyntaf wrth y llyw, enillodd Cymru grŵp oedd yn cynnwys Awstria a Hwngari i gyrraedd rownd gogynderfynol Pencampwriaeth Ewrop.

Cafodd Cymru eu curo gan Iwgoslafia dros ddau gymal yn yr wyth olaf, gydag ail gymal dadleuol ym Mharc Ninian, Caerdydd.

Dychwelodd Smith i dîm hyfforddi Cymru yn gynnar yn 1994 pan benodwyd John Toshack yn rheolwr rhan-amser.

Gyda John Toshack yn cyfuno’r rôl â’i swydd o ddydd i ddydd fel hyfforddwr Real Sociedad, penodwyd Mike Smith yn gynorthwyydd iddo.

Ond gadawodd John Toshack y swydd ar ôl dim ond 48 diwrnod ac un gêm wrth y llyw a chafodd Mike Smith ei benodi yn ei le.

Roedd yn gyfnod anodd yn hanes pêl-droed Cymru a chollodd y tîm cenedlaethol yn erbyn Moldova a Georgia wrth fethu â chyrraedd Ewro 96.

Y golled o 1-0 gartref yn erbyn Gerogia ym Mehefin 1995 oedd ei gêm olaf fel rheolwr Cymru, a hynny ar ôl 16 mis wrth y llyw.

“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn drist o glywed bod cyn-reolwr Cymru, Mike Smith, wedi marw, yn 83 oed,” meddai datganiad gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

“Mae meddyliau pawb yng Nghymdeithas Bêl-droed Cymru gyda theulu a ffrindiau Mike Smith ar yr adeg drist hwn.”