Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi rhybuddio ei fod o dan “bwysau eithafol” oherwydd y tywydd poeth ac oedi hir mewn ysbytai.

Daw hyn wrth i’r Swyddfa Dywydd rybuddio y gallai’r tymheredd yng Nghymru gyrraedd ei lefel uchaf heddiw (Dydd Mercher, 21 Gorffennaf) ar y chweched diwrnod yn olynol o wres uchel.

Dywedodd Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru eu bod wedi derbyn tua 2,000 o alwadau 999 y diwrnod dros y tridiau diwethaf. Roedd y digwyddiadau ddydd Mawrth (20 Gorffennaf) 9% yn uwch na’r hyn roedd y gwasanaeth yn eu disgwyl, ac yn gynnydd o 11% ers dydd Llun diwethaf (12 Gorffennaf) a chynnydd o 29% ar gyfer yr un dydd Llun y llynedd (20 Gorffennaf 2020). Roedd galwadau ‘coch’, lle mae bywyd dan fygythiad, bron i 30% yn uwch o’i gymharu â dydd Llun diwethaf (12 Gorffennaf).

‘Cleifion yn aros am oriau’

Oherwydd nifer y galwadau, a’r oedi hir mewn ysbytai ledled Cymru, roedd yn golygu fod y galw am y gwasanaeth wedi “goresgyn ei allu i ymateb.”

O ganlyniad, bu rhai cleifion yn aros am oriau lawer am ambiwlans.Cyflwynodd yr Ymddiriedolaeth drefniadau arbennig i reoli’r galw, yn cynnwys gofyn i rai cleifion wneud trefniadau amgen, fel gwneud eu trefniadau eu hunain i fynd i’r ysbyty.

Roedd mwy na 21% o’r galwadau 999 ddoe wedi’u categoreiddio fel rhai ‘gwyrdd’ sef difrifoldeb isel, ac wedi eu hasesu gan GIG 111 Cymru. Ymhlith y galwadau roedd unigolyn â bachyn pysgota yn eu troed, un arall oedd wedi dal eu bys mewn peiriant gwneud sudd, ac un arall yn dioddef o ddolur rhydd.

“Sefyllfa ddifrifol”

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gweithrediadadu, Lee Brooks: “Prin iawn rydym ni’n cyhoeddi digwyddiad parhad busnes ac nid yw’n benderfyniad rydym ni’n ei wneud yn hawdd – mae’n arwydd o sefyllfa ddifrifol.

“Fe wnaeth y gwres ddoe (Dydd Llun, 19 Gorffennaf), ynghyd â’r oedi yn yr ysbytai, olygu ein bod wedi cyrraedd pwynt yn gynnar yn y noson lle’r oedd y galw’n goresgyn ein capasiti i ymateb mewn modd diogel ac amserol.

“Hoffem ddweud wrth unrhyw un fu’n aros am gyfnod maith am ambiwlans ddoe ein bod ni’n ymddiheuro am eich profiad chi, ac nid dyma’r gwasanaeth rydym ni’n dymuno ei ddarparu.

“Tra’n bo ni mewn sefyllfa fwy sefydlog heddiw rydym ni’n parhau i wynebu pwysau eithriadol ar draws Cymru, ac mae arnom ni angen cymorth y cyhoedd.

“Ffoniwch 999 os oes bywyd mewn perygl yn unig, os gwelwch yn dda – hynny yw, ataliad ar y galon, poenau yn y frest neu anawsterau anadlu, mynd yn anymwybodol, tagu neu waedu difrifol.

“Os nad yw’n argyfwng lle bo bywyd dan fygythiad yna mae’n bwysig eich bod chi’n defnyddio un o’r llu o ddulliau amgen yn hytrach na 999, gan ddechrau gyda’r gwirwyr symptomau ar ein gwefan GIG 111 Cymru <https://111.wales.nhs.uk/> neu eich meddyg teulu, fferyllydd neu Uned Mân Anafiadau.”

Ychwanegodd: “Mae ein staff a’n gwirfoddolwyr ym mhob cwr o Gymru a phob rhan o’n gwasanaeth yn gweithio i’r eithaf i ddarparu’r gwasanaeth gorau y medrwn i bobl Cymru dan amodau anodd iawn,” meddai.

“Hoffwn ddweud diolch o galon wrth gydweithwyr am yr ymdrech aruthrol ar y cyd.”

Rhybudd oren am wres eithafol

Yn y cyfamser mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd oren am wres eithafol ac yn dweud y gallai’r tymheredd godi i 32C (90F) mewn rhannau o dde Cymru heddiw.

Daw hyn wrth i filoedd o bobl baratoi I fynd ar wyliau yn y Deyrnas Unedig yn lle teithio dramor, gan arwain at rybuddion am oedi ar y ffyrdd.

Dydd Mawrth (20 Gorffennaf) oedd y diwrnod poethaf yn y DU gyda’r tymheredd yn cyrraedd 32.2C (90F) mewn rhai llefydd. Roedd y tymheredd wedi codi i 30.9C (88F) yng Nghaerdydd a Brynbuga ddydd Llun.