Mae pwyllgorau ym mhedair senedd y Deyrnas Unedig wedi ymuno â’i gilydd i annog y Llywodraeth yn San Steffan i beidio â dod a’r cynnydd o £20 i Gredyd Cynhwysol i ben.

Cafodd y cynnydd ei gyflwyno yn ystod pandemig y coronafeirws.

Mae pwyllgorau yn y Senedd, San Steffan, Holyrood, a Stormont  wedi ysgrifennu ar y cyd at y Canghellor Rishi Sunak a’r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Therese Coffey ar y mater.

Ac fe ddywedon nhw eu bod yn gobeithio y byddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn “cymryd ein barn y dylid ymestyn y cynnydd o ddifrif “.

Mae’r cynnydd o £20 yn y taliadau Credyd Cynhwysol wedi bod yn “achubiaeth i filiynau o deuluoedd, gan eu harbed rhag tlodi”, yn ôl y pwyllgorau.

Mae gwleidyddion yr wrthblaid, arweinwyr undebau ac ymgyrchwyr gwrthdlodi i gyd wedi bod yn annog gweinidogion i wneud y cynnydd i’r taliad budd-daliadau yn un parhaol.