Roedd benthyciadau’r Llywodraeth wedi gostwng i £22.8bn ym mis Mehefin, o’i gymharu â £28.2bn y llynedd, yn ôl ffigurau swyddogol.

Y ffigwr fis diwethaf oedd yr ail uchaf o ran benthyciadau ym mis Mehefin ers i gofnodion ddechrau yn 1993, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Mae’r data’n dangos bod benthyca yn ystod y flwyddyn ariannol hyd yn hyn wedi cyrraedd £69.5bn ers diwedd mis Mawrth – £49.8bn yn llai yn yr un cyfnod flwyddyn yn ôl.

Dywedodd y Canghellor Rishi Sunak: “Rwy’n falch iawn o’r pecyn cymorth digynsail oedd mewn lle i ddiogelu swyddi a helpu miloedd o fusnesau i oroesi’r pandemig, a’n bod yn parhau i gefnogi’r rhai sydd ei angen.

“Serch hynny, mae hefyd yn briodol ein bod yn sicrhau bod ein dyled o fewn rheolaeth yn y tymor byr a dyna pam roeddwn i wedi gwneud dewisiadau anodd yn y Gyllideb ddiwethaf er mwyn rhoi arian cyhoeddus ar drywydd cynaliadwy.”